Search site


Article archive

Fideo a chân newydd Los Blancos ar You Tube

04/12/2017 21:59
Mae Ochr 1 wedi llwytho fideo newydd i’r gân ‘Dadgysylltu’ gan Los Blancos ar eu sianel YouTube. Fe grëwyd y fideo gan y cyfarwyddwr ffilm Nico Dafydd, gan ddefnyddio sganiwr a chamera i greu dros 700 o ddelweddau o’r band dros ddau ddiwrnod. Bu’r band yn brysur yn creu yr hyn maent yn disgrifio...

Pump i’r penwythnos 1/12/17

01/12/2017 14:19
Gig: Twrw Nadolig: Candelas, Alffa, Pyroclastig – Clwb Ifor Bach Does dim y fath beth a gormod o ddigwyddiadau byw mewn un penwythnos, ond yn sicr, anodd fydd dewis pa ddigwyddiad i fynd iddo y penwythnos yma. Mae Gwenno Saunders a Machynlleth Sound Machine yn chwarae’n Redhouse Cymru, Merthyr...

Criw ifanc yn sefydlu Gigs y Gilfach Ddu

28/11/2017 21:39
  Mae criw o bobl ifanc o ardal Dyffryn Peris wedi ymuno i drefnu gigs cerddorol yn ardal Llanberis o dan yr enw Gigs y Gilfach Ddu. Gwnaed y penderfyniad wrth sylwi bod diffyg gigs yn yr ardal, a gweld bod cyfle i drefnu mwy o ddigwyddiadau cerddorol yn y fro. O ganlyniad, mae’r criw wedi...

Pump i’r penwythnos 24.11.17

24/11/2017 14:44
Gig: Blwyddyn Yn Nghwmni Neb: Twinfield, Ani Glass, Machynlleth Sound Machine – 25/11/17 Mae Recordiau Neb yn dathlu blwyddyn o fodolaeth y penwythnos yma, gan gychwyn hefo gig yn y Sustainable Studio, Caerdydd nos Sadwrn 25 Tachwedd. Bydd DJ Gareth Potter a DJ Bernie Conner hefyd yn troi tiwns...

Lansio Gwobrau’r Selar 2017

20/11/2017 10:15
Oes wir, mae blwyddyn arall wedi hedfan heibio, a’r amser wedi dod unwaith eto i ni lansio paratoadau un o ddigwyddiadau cerddorol mwyaf y flwyddyn – ydy, mae Gwobrau’r Selar ar y gweill. Am y chweched flwyddyn yn olynol rydan ni’n cynnal digwyddiad byw i ddathlu llwyddiant y sin dros y flwyddyn...

Pump i’r Penwythnos 17/11/17

17/11/2017 10:51
Gig: Y ddawns Ryng-gol - Yr Eira, Y Reu, The Barry Horns, Y Cledrau, Serol Serol, Mosco – Undeb Myfyrwyr Aberystwyth Mae gig â lein-yp y byddwch chi’n wirion i’w golli’r penwythnos yma’n Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, sef y Ddawns Ryng-gol ar nos Sadwrn 18 Tachwedd. Bydd cyfle i glywed caneuon newydd...

Alffa nôl yn y stiwdio

16/11/2017 15:38
Newyddion da a gyrhaeddodd glustiau Y Selar yn ddiweddar ydy bod Alffa wedi bod wrthi’n gweithio ar gynnyrch newydd gyda Robin Llwyd yn stiwdio Sain, Llandwrog. Mae 2017 wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus dros ben i Alffa wrth gwrs, wrth iddynt gipio teitl Brwydr y Bandiau yn Eisteddfod Genedlaethol...

Adwaith i chwarae yn Ngŵyl SUNS yn Yr Eidal

16/11/2017 15:37
Bydd Adwaith, un o fandiau prysura’r sin Gymraeg gyfoes ar hyn o bryd, yn teithio i’r Eidal ddiwedd mis Tachwedd i berfformio yng Ngŵyl SUNS. Gŵyl “celfyddydau perfformio Ewropeaidd mewn ieithoedd lleiafrifol” yw SUNS, cyhoeddodd label Libertino ar eu cyfrif Twitter ddydd Iau 9 Tachwedd. Cynhelir...

Penwythnos mawr y Ddawns Ryng-gol

15/11/2017 20:56
  Mae un o benwythnosau cerddorol mwyaf tymor yr hydref, y Ddawns Ryng-gol, yn digwydd yn Aberystwyth y penwythnos yma 17-18 Tachwedd. Cynhelir y ddawns yn flynyddol yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, gydag aelodau undebau myfyrwyr Cymraeg prifysgolion eraill Cymru’n heidio i’r Coleg Ger y Lli i...

Pump i’r penwythnos 10/11/17

10/11/2017 09:42
Gig: Ffug – Clwb Ifor Bach, Caerdydd Mae ‘na ambell gig yn digwydd penwythnos yma i roi yn eich dyddiaduron.   Ein prif ddewis ni ydy Ffug (yn cefnogi Syd Arthur) nos Wener 10 Tachwedd yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd 19:00 – os ydach chi’n lwcus, efallai y cewch glywed chydig o’r stwff newydd...
Items: 41 - 50 of 447
<< 3 | 4 | 5 | 6 | 7 >>