Search site


Alffa nôl yn y stiwdio

16/11/2017 15:38

Newyddion da a gyrhaeddodd glustiau Y Selar yn ddiweddar ydy bod Alffa wedi bod wrthi’n gweithio ar gynnyrch newydd gyda Robin Llwyd yn stiwdio Sain, Llandwrog.

Mae 2017 wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus dros ben i Alffa wrth gwrs, wrth iddynt gipio teitl Brwydr y Bandiau yn Eisteddfod Genedlaethol Môn fis Awst.

Er bod y band yn disgrifio’r cynnyrch newydd fel eu “sengl gyntaf go iawn”, nid dyma’r tro cyntaf i ni weld cynnyrch gan y ddeuawd o Lanrug. Roedd dau drac ganddynt ar albwm aml gyfrannog Sain, ‘Sesiynau Stiwdio,’ a ryddhawyd eleni, sef y caneuon ‘Rhydd’ a ‘Mwgwd’.

Fe ryddhawyd EP ganddynt yn annibynnol yn 2016 hefyd, casgliad byr yn rhannu enw’r grŵp, gyda chwe chân arni. Er hynny dywed canwr Alffa, Dion, eu bod yn teimlo mai hon fydd eu sengl gyntaf swyddogol.

Yn ôl Dion gallwn ddisgwyl clywed sŵn sydd ychydig yn ysgafnach na’r arfer gan Alffa yn y dyfodol,  yn ogystal â’r sŵn sy’n cynnwys eu “riff fuzzy, bluesy” nodweddiadol.

Bydd y sengl newydd allan fis Ionawr – gyda’r union ddyddiad rhyddhau i’w gadarnhau’n fuan.

Cyhoeddwyd ar ddydd Gwener 10 Tachwedd bod Alffa yn un o’r bandiau a fydd yn chwarae yn gig ‘Twrw: Nadolig’ eleni. Bydd Candelas a Pyroclastig yno yn ogystal ar 1 Rhagfyr yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd.