Unwaith eto eleni rydym wedi gwneud pob ymdrech i gadw pris tocynnau'r digwyddiad mor isel â phosib. Mae'r pris wedi codi i'r pris llawn bellach, sef £17 (sydd dal yn fargen!).
Ble ga'i docyn?
Mae siop docynnau ar-lein Gwobrau'r Selar bellach ar gau, er mwyn caniatau amser postio i gwsmeriaid.
Mae dal modd prynu tocynnau mewn nifer o siopau - manylion isod.
Siopau sy'n gwerthu Tocynnau
Mae modd i chi brynu tocynnau Gwobrau'r Selar mewn nifer o siopau mewn gwahanol ardaloedd o Gymru:
Llên Llŷn, Pwllheli
Palas Print, Caernarfon
Awen Meirion, Y Bala,
Siop Inc, Aberystwyth
Siop y Pethe, Aberystwyth
Caban, Caerdydd
Swyddfa UMCA, Prifysgol Aberystwyth
Gig Cyfraniad Arbennig Heather Jones
Ar nos Wener 16 Chwefror, byddwn unwaith eto'n cynnal gig i ddathlu gwaith enillydd gwobr 'Cyfraniad Arbennig' Gwobrau'r Selar eleni gyda Heather Jones a chefnogaeth gan Alys Williams. Mae'r tocynnau ar werth nawr am £8 yn unig.
Mae modd i chi brynu tocynnau i'r gig o'r siopau canlynol: