Search site


Adwaith i chwarae yn Ngŵyl SUNS yn Yr Eidal

16/11/2017 15:37

Bydd Adwaith, un o fandiau prysura’r sin Gymraeg gyfoes ar hyn o bryd, yn teithio i’r Eidal ddiwedd mis Tachwedd i berfformio yng Ngŵyl SUNS.

Gŵyl “celfyddydau perfformio Ewropeaidd mewn ieithoedd lleiafrifol” yw SUNS, cyhoeddodd label Libertino ar eu cyfrif Twitter ddydd Iau 9 Tachwedd. Cynhelir yr ŵyl yn nhref Udine, sydd yn ngogledd Ddwyrain yr Eidal.

Dyddiadau’r ŵyl yw 30 Tachwedd nes 2 Rhagfyr, a bydd Adwaith yn gwneud “gwahanol showcases o gwmpas y ddinas” trwy gydol yr ŵyl, meddai Gwenllian Anthony, aelod o’r band.

Dywedodd Gwenllian ei bod hi’n “hynod o bwysig” cynnal gŵyl o’r fath, “mae’n ffordd amazing i gwrdd â phobl dros y byd i gyd sy’n siarad iaith leiafrifol eu gwledydd. Mae’n cadw’n ieithoedd yn fyw”.

Nid oedd Adwaith yn gyfarwydd â’r ŵyl cyn i’r cyfle i chwarae yno godi “o’n i heb glywed am yr ŵyl ‘ma o gwbl! Wedyn dywedodd rhywun bod Gwenno (Saunders) wedi cymryd rhan, a bod Gruff Rhys yno blwyddyn ‘ma, so mae’n fraint mawr i gael mynd draw.”

“Mae blwyddyn ‘ma wedi bod yn mental, ni heb stopo! 100% y flwyddyn fwya’ prysur a fwya’ cyffrous ni byth ‘di cael.”

Daeth y newyddion cyffrous hefyd bod albwm ar y ffordd ganddynt – dywed Gwenllian bod yr albwm wedi’i recordio, a’i fod allan yn 2018. Bydd Adwaith hefyd yn rhyddhau ychydig o senglau cyn rhyddhau’r casgliad hir.