Search site


Fideo a chân newydd Los Blancos ar You Tube

04/12/2017 21:59

Mae Ochr 1 wedi llwytho fideo newydd i’r gân ‘Dadgysylltu’ gan Los Blancos ar eu sianel YouTube.

Fe grëwyd y fideo gan y cyfarwyddwr ffilm Nico Dafydd, gan ddefnyddio sganiwr a chamera i greu dros 700 o ddelweddau o’r band dros ddau ddiwrnod.

Bu’r band yn brysur yn creu yr hyn maent yn disgrifio fel ‘sonic magic’ yn ddiweddar yn y stiwdio gyda’r cynhyrchydd adnabyddus Sir Doufus Styles, yn gweithio ar y sengl ddwbl Datgysylltu / Chwarter i Dri  fydd allan ar Recordiadau Libertino ar 9 Chwefror 2018.

Dyma’r cynnyrch diweddaraf i ni glywed gan Los Blancos, ac mae’n dilyn eu sengl boblogaidd ‘Mae’n Anodd Deffro Un’ a ryddhawyd ddechrau’r haf.

Mae aelodau’r band slacker/garage rock o Gaerfyrddin yn cynnwys Gwyn Rosser, Emyr Sion, Dewi Jones ac Osian Owen. Tyfodd Los Blancos o lwch y ddeuawd blŵs Tymbal – band blaenorol Emyr a Gwyn.