Search site


Pump i’r Penwythnos 17/11/17

17/11/2017 10:51

Gig: Y ddawns Ryng-gol - Yr Eira, Y Reu, The Barry Horns, Y Cledrau, Serol Serol, Mosco – Undeb Myfyrwyr Aberystwyth

Mae gig â lein-yp y byddwch chi’n wirion i’w golli’r penwythnos yma’n Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, sef y Ddawns Ryng-gol ar nos Sadwrn 18 Tachwedd.

Bydd cyfle i glywed caneuon newydd o albwm Yr Eira, stwff newydd Y Reu, albwm Y Cledrau sydd ar fin ei ryddhau, The Barry Horns, Serol Serol - sydd hefyd efo albwm ar y gweill (hwn fydd eu hail gig) a Mosco, a greodd argraff ym Mrwydr y Bandiau ‘leni.

Os na fydd hynny’n ddigon i chi, yna mae ‘chydig o betha’ eraill ‘mlaen hefyd...

Nos Wener bydd Chroma yng Nghlwb Ceidwadwyr Cathays, Caerdydd fel rhan o sioe gydag arddangosfa ‘Rat Trap’.

Nos Sadwrn 18 Tachwedd, bydd Patrobas yn chwarae’n Ffair Nadolig Llandudno, a Gai Toms yn chwarae yn Nhŷ Siamas gyda’r hwyr.

Hefyd, yn Pontio Bangor  nos Sadwrn bydd un o aelodau gwreiddiol Gorky’s Zygotic Mynci,  Richard James yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Bydd Iwan Huws o Cowbois Rhos Botwnnog yn perfformio set unigol â deunydd o’i albwm cyntaf unigol, ‘Mis Mêl’ fel rhan o’r noson hefyd.

Amrywiaeth eang o gerddoriaeth eto wythnos yma.

Cân: ‘Gad o lifo trwy’r dŵr’ - Yr Oria

Mae Sengl newydd Yr Oria bellach i’w chlywed ar Soundcloud ers 10 Tachwedd. Dyma fand sydd wedi bod o gwmpas ers dros flwyddyn erbyn hyn, ac wedi gwneud degau o gigs ers cychwyn.

Ffurfiodd y pedwarawd o Flaenau Ffestiniog yn ystod ail hanner 2016, ac mae Garry o Jambyls a Gerwyn Murray, basydd Sŵnami ymysg yr aelodau.

O fewn blwyddyn, maent wedi rhyddhau pedair sengl ar Soundcloud yn ogystal a chyhoeddi EP yn swyddogol, gyda phum cân. Daeth eu sengl gyntaf allan ddiwedd 2016 sef ‘Gelynion’, wedyn ‘Cyfoeth Budr’, yna ‘Cyffur’ fis Mehefin diwetha’. Dyma’r ddiweddara’:

 

Record: House Arrest - Euros Childs  

Mae deuddegfed albwm unigol cyn ganwr Gorky’s Zygotic Mynci, Euros Childs, allan yn swyddogol heddiw yn swyddogol ‘House Arrest’, a hynny ar ei label unigol, National Elf.

Mae ei daith hyrwyddo ar gyfer hyrwyddo’r albwm wedi dechrau hefyd, a bydd yn teithio ledled Prydain. Hon fydd ei daith gyntaf ers dwy flynedd.

Agorodd Euros ei daith yn y Transport Club yng Nghaerdydd neithiwr 16 Tachwedd, a rhwng heddiw a 9 Rhagfyr bydd cyfleoedd i’w weld yn Aberystwyth, Bangor, Caerfyrddin, Abertawe a Sir Benfro ynghyd â nifer o drefi a dinasoedd eraill Prydain.

Yn y gorffennol mae Euros wedi teithio gyda band llawn, ond bydd ei daith ddiweddaraf ychydig yn wahanol, fel yr eglura Euros....

“Allweddellau a pheiriant drymiau fydd y setup. Bydd hyn yn rhoi cyfle i mi chwarae caneuon fi heb allu chwarae’n fyw o’r blaen – mwy o stwff sydd wedi’i seilio ar y synth. Bydd dau ohonom ar y llwyfan. Fi’n edrych ‘mlan yn fawr.”

Gwnewch yn siŵr i’i ddal ar y ddyddiadau yma -

17 Tachwedd: The Folkhouse, Bryste

18 Tachwedd: Railway Club, Southend-on-Sea

19 Tachwedd:  Seabright, Llundain

20 Tachwedd: Ivy House, Llundain

22 Tachwedd: Centrala, Birmingham

23 Tachwedd:  Whiskey Jar, Manceinion

24 Tachwedd:  Glad Cafe, Glasgow

25 Tachwedd:  Mining Institute, Newcastle

26 Tachwedd:  Yorkshire House, Lancaster

28 Tachwedd:  Wharf Chambers, Leeds

29 Tachwedd: The Adelphi, Hull

30 Tachwedd:  - Buyers Club, Lerpwl

1 Rhagfyr: Rascals, Bangor

2 Rhagfyr:  Arad Goch, Aberystwyth 

5 Rhagfyr:  Prince Albert, Stroud 

6 Rhagfyr:  Transport Club, Caerdydd

7 Rhagfyr:  The Druidstone, Druidstone, Sir Benfro

8 Rhagfyr: Y Parrot, Caerfyrddin

9 Rhagfyr: Cinema & Co, Abertawe

 

Artist: Plant Duw

Diolch i Dduw – mae Plant Duw yn ôl i’n difyrru. Yn ogystal a’r newyddion am albwm newydd a dyddiad lansio - fe gyhoeddon nhw fideo ddoe (16 Tachwedd) i gyd-fynd â’r trac ‘Trempyn’ oddi ar eu halbwm newydd sef ‘Tangnefedd’.

Gan ddisgrifio’r cymbac cerddorol – dywedon nhw  “mae meddyliau Plant Duw o hyd ar y caneuon sy’n ffurfio’n araf rhyngom - brith syniadau yn trosi a throi yn yr awel cyn plannu gwreiddiau a thyfu’n fwy cadarn, o fewn waliau gardd flêr ond ffrwythlon y band”.

Mi fydd yr albwm newydd allan ddechre’ fis Rhagfyr ar label Sbrigyn Ymborth, ac mi fyddan nhw’n ei lansio hi’n y Big Top, Ten Feet Tall, Caerdydd ar 10 Rhagfyr efo’r artistiaid dawnus ARGRPH, HYLL a Y GWYDDEL yn cefnogi, yn ogystal a DJ Hefin Jones yno hefyd.

 

Un peth arall..: Sôn am y Sîn yn rhyddhau podlediad newydd

Mae’r blog cerddoriaeth misol Sôn am y Sîn wedi rhyddhau eu trydydd podlediad ddydd Llun 13 Tachwedd.

Rhyddhawyd y podlediad cyntaf ganddynt ym mis Awst, ac rydan ni’n ffans mawr yma yn Y Selar.

Enw’r podlediad newydd sy’n trin a thrafod cerddoriaeth Gymraeg gyfoes ydy ‘Y Sôn’, efo’r un diweddara’ yn “garreg filltir personol” iddynt yn ôl y ddeuawd.

Cychwynnodd Sôn am y Sin fel blog erthyglau am y sin gerddorol Gymraeg – gyda’r erthygl gyntaf yn cael ei chyhoeddi nôl ym mis Ionawr 2016.

Gethin Griffiths a Chris Roberts ydy’r ddau sy’n gyfrifol am y blog, ac erbyn hyn mae bron i 70 o erthyglau wedi eu cyhoeddi  - y rhan fwyaf gan Geth a Chris, ond ambell un gan awduron gwadd hefyd. 

Bwriad y ddau yw ceisio annog trafodaeth - “rydan ni’n edrych ymlaen i gael trafodaethau iach â’r gwrandawyr yn y dyfodol” meddai’r ddau.

Mae nhw’n bodlediadau difyr sy’n taflu golau ar bob math o gerddoriaeth sydd ar gael i’n clustiau yma yng Nghymru. Ewch amdani!