Mae Gwenno wedi cyhoeddi ei bod yn paratoi i ryddhau i ryddhau ei halbwm diweddaraf yn y gwanwyn.
Mae’r artist pop electroneg o Gaerdydd wedi cael seibiant haeddiannol ers rhyddhau ei halbwm Gymraeg gwych Y Dydd Olaf yn 2015 – record gipiodd deitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn gan yr Eisteddfod...
Mae trefnwyr gŵyl gerddoriaeth flynyddol Wrecsam, FOCUS Wales, wedi cyhoeddi bydd y digwyddiad nôl yn 2018 dros y ddyddiadau 10 -12 Mai.
Mae’r ŵyl yn un sy’n cael ei chynnal mewn amryw leoliadau yn nhref Wrecsam bob mis Mai ers rhai blynyddoedd, gan gyfuno perfformiadau gan lwyth o artistiaid gyda...
A hithau’n benwythnos tân gwyllt, dyma i chi ambell argymhelliad ffrwydrol o dda ar gyfer bwrw’r Sul.
Gig: TWRW - Omaloma, Cpt. Smith, Sybs, DJ Pydew – Clwb Ifor Bach, Caerdydd
Mae Twrw yn dychwelyd y penwythnos yma, efo lein-yp penigamp unwaith eto. Bydd Omaloma, Cpt. Smith, Sybs a DJ Pydew yn...
Gig: Steve Eaves a Rhai Pobl – Gigs Bach y Fro, Penarth
Mae’n benwythnos gweddol dawel o ran gigs y penwythnos yma am unwaith, ond dyma chi lond llaw o bethau sy’n digwydd...
Bydd H a’r Band, â’r Welsh Whisperer yn Neuadd y Gwendraeth, Drefach nos Wener am 19:30.
Hefyd nos Wener, bydd Steve Eaves...
Tydi amser yn hedfan?
Ydy, credwch neu beidio mae’n amser i ni ddechrau paratoi am un o uchafbwyntiau’r flwyddyn gerddoriaeth yng Nghymru – Gwobrau’r Selar!
Felly nodwch benwythnos 16-17 Chwefror 2018 yn eich dyddiaduron, gan mai dyma fydd dyddiad Gwobrau’r Selar.
Yn ôl yr arfer, Aberystwyth fydd...
Yr artist o Gaerdydd, The Gentle Good, ydy enillydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni gyda’i albwm Adfeilion/Ruins.
Record hir prosiect cerddorol Gareth Bonello ddaeth i’r brig o’r rhestr fer o 12 albwm a gyhoeddwyd fis diwethaf.
Roedd y rhestr fer eleni’n cynnwys albwms gan nifer o artistiaid...
Gig: Diwrnod Darganfod Gŵyl Sŵn – 21/10/17
Mae’n benwythnos prysur arall i gerddoriaeth cyfoes, gyda chryn dipyn ymlaen rhwng pob dim.
Yn ngwesty’r Llew Du yn Nhal-Y-Bont ger Aberystwyth nos Wener bydd Alys Williams a’r Band yn chwarae – un sydd hefyd ar fin gweithio ar ganeuon newydd yn y...
Mae’r artist pop electroneg, Ani Glass, wedi datgelu i’r Selar ei bod wrthi’n gweithio ar ei halbwm cyntaf ar hyn o bryd.
Rhyddhaodd Ani ei EP cyntaf, Ffrwydrad Tawel, yn mis Ebrill eleni ar Recordiau Neb, cyn mynd ati i gyhoeddi fersiwn newydd o’r casgliad byr, gyda’r caneuon wedi eu hail-gymysgu...
Mae’r grŵp Casset wedi datgelu bydd eu halbwm cyntaf allan yn swyddogol ddiwedd y mis.
Bydd y record yn rhannu enw’r grŵp, fel yr eglura’r aelodau - “gan mai ein halbwm cyntaf fydd o, oedda ni’n meddwl jyst ei alw’n Casset i gael ein henw allan”.
Mae’r aelodau’n cynnwys tri brawd o Sir Drefaldwyn,...
Bydd rhai o ddarllenwyr Y Selar yn cofio bod y grŵp electroneg o'r 1980au, Ffenestri, wedi ail-ffurfio dros yr haf ar gyfer gig yng Ngŵyl Arall.
Nawr, maent wedi cyhoeddi manylion taith ‘Electro Cymru’ fydd yn cynnwys y grŵp Celwyddau (Panda Fight gynt) fel cefnogaeth iddynt.
Fel...