Gig: Twrw a Femme - Adwaith, Marged, Serol Serol, DJ Gwenno, Patblygu – Clwb Ifor Bach
Mae digwyddiadau all fod yn un hanesyddol dan sylw’r penwythnos yma, wrth i Serol Serol chwarae eu gig cyntaf erioed!
Byddan nhw’n chwarae fel rhan o noson ar y cyd rhwng Twrw a Femme yng Nghlwb Ifor Bach heno...
O’r nodyn cyntaf mae’r sengl newydd yma gan Candelas yn swnio’n ffresh ond eto’n gyfarwydd i ni fel sŵn arbennig y band.
Dydi hon ddim mor drymaidd â thraciau fel ‘Anifail’ neu ‘Cadno’, sydd yn rhoi mwy o le i’r iaith gyfoethog mae Candelas yn ei ddefnyddio i gyfleu stori ac emosiwn y gân.
Unwaith...
Mae cân newydd Gwyllt yn sengl wych, yn funky a bachog gyda rapio yn arddull Genod Droog.
Cyfansoddodd Amlyn Parry’r gân ar ôl sylweddoli cyn lleied roedd o’n ei wybod am ei ardal ei hun.
Gyda sain sy’n atgoffa rhywun o Pep Le Pew mae’n amlwg fod y grŵp hwnnw wedi dylanwadu ar Gwyllt, a’r geiriau...
Gig: Twrw – Gwilym Bowen Rhys, Patrobas a Glain Rhys - Clwb Ifor Bach, Caerdydd
Dipyn o bethau’n mlaen ar gyfer penwythnos mawr y pêl-droed yr wythnos hon. Mae’r dewis yn ymestyn o noson dawel gyda phowlen o lobsgows a llais hyfryd Alys Williams ar un pegwn, i sets DJ tan oriau man y bore gyda...
Fe ryddhawyd fideo newydd gan W H Dyfodol, band Haydon Hughes, (Y Pencadlys, Land of Bingo gynt) gan Ochr 1/Hansh yn ddiweddar, ac rydan ni'n awyddus iawn i chi ddilynwyr Y Selar gael cip arno os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes.
W H Dyfodol ydy prosiect diweddaraf yr enigma Haydon, a...
Mae cwrs arbennig yn cael ei gynnal yn y Galeri yng Nghaernarfon rhwng 31 Hydref a 3 Tachwedd ar gyfer pobl ifanc rhwng yr oedran 13-25 sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth.
Marathon Roc ydy enw’r cwrs a gynhelir yn ystod hanner tymor yr Hydref, ac mae ar agor i fandiau ac unigolion. Cwrs dros...
Gig: Twrw - Yr Eira, Y Cledrau, Yr Oria – Twrw, Clwb Ifor Bach
Mae’n benwythnos boncyrs o brysur wythnos yma, efo dwy ŵyl yn cael eu cynnal yn y de, sef Gŵyl Ymylol Abertawe, a Gŵyl y Cynhaeaf yn Aberteifi.
Y Niwl fydd yn cau’r ŵyl yn Aberteifi, efo Gwilym Bowen Rhys a Lowri Evans a Lee Mason yn...
Rhag ofn i chi golli'r newyddion ddiwedd wythnos diwethaf, mae’r rhestr fer wedi ei chyhoeddi ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig (Welsh Music Prize) eleni.
Gwobr flynyddol yw’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig sy’n cydnabod y gerddoriaeth orau sydd wedi cael ei gyfansoddi yng Nghymru, neu gan...
Mae’n gyfnod cyffrous dros ben i’r band gwerin traddodiadol Cymraeg, Calan, wrth iddyn nhw adael Cymru fach am UDA fel rhan o’u taith o amgylch y byd.
Gadawon nhw ddydd Mercher ar gyfer y daith hir o saith wythnos. Mae rhestr hirfaith o ddyddiadau perfformio ganddynt, gan gychwyn wrth...
Mae criw o Ddyffryn Peris wedi bod yn apelio am unigolion i fod yn rhan o’u cynlluniau i drefnu mwy o gigs Cymraeg yn yr ardal. Maent hefyd yn chwilio am fandiau i chwarae yn Nyffryn Peris.
Dywedant eu bod yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd am fod yn ran o’r cynlluniau, boed yn bwcio bandiau i...