Search site


Penwythnos mawr y Ddawns Ryng-gol

15/11/2017 20:56

 

Mae un o benwythnosau cerddorol mwyaf tymor yr hydref, y Ddawns Ryng-gol, yn digwydd yn Aberystwyth y penwythnos yma 17-18 Tachwedd.

Cynhelir y ddawns yn flynyddol yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, gydag aelodau undebau myfyrwyr Cymraeg prifysgolion eraill Cymru’n heidio i’r Coleg Ger y Lli i fwynhau’r arlwy gerddorol sydd ar y llwyfan.

UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth) sy’n gyfrifol am drefnu’r gig, ac maent eisoes wedi cyhoeddi enwau’r artistiaid sy’n perfformio ar y nos Sadwrn 18 Tachwedd. Bydd Stomp y Ddawns Ryng-gol hefyd yn digwydd nos Wener 17 Tachwedd yn yr Hen Lew Du am 20:00.

Dywedodd Gwion Llwyd, Llywydd UMCA eu bod yn “edrych ymlaen i groesawu holl fyfyrwyr Cymraeg a phobl ifanc ar draws Cymru a thu hwnt i un o’r digwyddiadau mwyaf yng nghalendr cerddoriaeth Gymraeg

“Mae myfyrwyr UMCA yn edrych ymlaen at y digwyddiad yma bob blwyddyn oherwydd yr holl fwrlwm sy’n dod i Aberystwyth a dangos y diwylliant rydym yn ei gynnig” meddai Gwion wrth Y Selar.

“Er bod y digwyddiad yn cael ei gynnal yn flynyddol yn Aberystwyth, credwn ei fod yn bwysig bod y lein-yp yn un diweddar ac at ddant y gynulleidfa eang.

“Roedd hi’n dasg heriol ffurfio’r lein-yp gan sicrhau ei fod yn cynnwys amrywiaeth o gerddoriaeth, perfformwyr cyfoes ac yn cynnig gig o safon, ond credaf ein bod ni fel pwyllgor wedi gwneud hyn yn llwyddiannus.”

Mae wedi bod yn flwyddyn gofiadwy i Yr Eira yn dilyn rhyddhau eu halbwm cyntaf, a nhw fydd prif fand y Ryng-Gol, gyda’r canwr Lewys Wyn yn dychwelyd i’w hen dref prifysgol i berfformio.

Heb os bydd y myfyrwyr sydd wedi bod yn dilyn anturiaethau tîm pêl-droed Cymru yn gyffrous i weld enw The Barry Horns ar y lein-yp. Y band pres amgen sy’n diddanu a chodi canu ymysg torf gemau pêl-droed y tîm cenedlaethol.

“Bydd y band yn chwarae rhai o’r caneuon sy’n cael eu canu yn ystod y gemau, a fydd yn galluogi’r dorf i ail-fyw rhai o atgofion haf 2016” meddai Gwion.

Band sydd wedi cael blwyddyn cymharol dawel, Y Reu, ydy’r enw nesaf ar y rhestr, ynghyd ag Y Cledrau – grŵp arall sydd â chysylltiadau agos â Phrifysgol Aber. Graddiodd Marged, basydd y grŵp, o Brifysgol Aber yn gynharach eleni.

Dau o fandiau newydd mwyaf cyffrous Cymru sy’n cwblhau’r lein-yp, sef un o fandiau rownd derfynol Brwydr y Bandiau eleni, Mosco, a’r grŵp ‘pop gofodol’ newydd o Ddyffryn Conwy, Serol Serol.

Bydd y Ddawns Ryng-gol eleni’n digwydd ar nos Sadwrn 18 Tachwedd gan ddechrau am 20:00, a phris tocyn yn £15 erbyn hyn.