Search site


Lansio Gwobrau’r Selar 2017

20/11/2017 10:15

Oes wir, mae blwyddyn arall wedi hedfan heibio, a’r amser wedi dod unwaith eto i ni lansio paratoadau un o ddigwyddiadau cerddorol mwyaf y flwyddyn – ydy, mae Gwobrau’r Selar ar y gweill.

Am y chweched flwyddyn yn olynol rydan ni’n cynnal digwyddiad byw i ddathlu llwyddiant y sin dros y flwyddyn ddiwethaf, gwobrwyo’r goreuon a chynnal clamp o gig mawr gwych yng nghanol mis Chwefror.

Ac unwaith eto bydd Gwobrau’r Selar yn ôl yn Aberystwyth, a hynny ar benwythnos 16-17 Chwefror. Undeb y Myfyrwyr Aberystwyth fydd lleoliad y prif ddigwyddiad, ond bydd digon o weithgareddau amrywiol o gwmpas y dref dros y penwythnos.

Mae ‘na gwpl o newidiadau bach i gategorïau y Gwobrau eleni, gyda manylion isod, ond yn ôl yr arfer rydan ni angen eich help chi i lunio rhestrau hir ar gyfer y bleidlais – eich cyfrifoldeb chi ydy enwebu enwau i’w hystyried gan Banel Gwobrau’r Selar er mwyn iddyn nhw lunio rhestrau hir.

Y drefn bleidleisio

Mae’r drefn bleidleisio’n debyg iawn i llynedd, a gyda’ch help chi, byddwn yn llunio rhestrau hir ar gyfer pob categori yn y bleidlais.

-          Yn gyntaf, bydd modd i unrhyw un gynnig enwebiad ar gyfer unrhyw un o’r categorïau isod rhwng hyn a 1 Rhagfyr.  

-          Yn fuan wedi cau’r enwebiadau bydd ‘Panel Gwobrau’r Selar’ yn trafod yr enwebiadau ac yn penderfynu ar restrau hir ar gyfer pob categori.

-          Bydd y bleidlais yn agor ar 9 Rhagfyr gyda chyfle i bawb fwrw un bleidlais ar gyfer pob categori rhwng hynny a chau’r bleidlais 4 Ionawr.

-          Byddwn yn cyhoeddi rhestrau byr y gwobrau ar ôl i’r bleidlais gau, gyda’r enillwyr i’w cyhoeddi’n ecsgliwsif yng Ngwobrau’r Selar yn Aberystwyth!

Cyfle i chi fod ar banel Gwobrau’r Selar

Bydd 10 o bobl ar Banel Gwobrau’r Selar, fydd yn gyfrifol am lunio rhestrau hir y gwobrau. Bydd 5 o’r panel yn gyfranwyr rheolaidd i’r Selar, a 5 yn ddarllenwyr selog o’r cylchgrawn – ac mae cyfle i chi fod yn un o’r 5 darllenwr lwcus!

Os hoffech chi’r cyfle i fod ar Banel Gwobrau’r Selar yna anfonwch nodyn e-bost at gwobrau-selar@outlook.com erbyn 1 Rhagfyr gyda ‘Panel Gwobrau’r Selar’ fel pwnc i’r neges, a brawddeg yn egluro pam yr hoffech fod ar y panel.

Enwebwch

Os ydych chi am gynnig enw i’w ystyried ar gyfer un o gategorïau Gwobrau’r Selar (rhestr categorïau isod) yna gyrrwch enwebiad at gwobrau-selar@outlook.com gan nodi ‘Enwebiadau’ fel pwnc i’r neges, erbyn 1 Rhagfyr. Bydd pob enwebiad, a llawer mwy, yn cael eu hystyried gan y panel.

Byddwn yn cyhoeddi’r rhestrau hir ar 9 Rhagfyr, a bydd y bleidlais yn agor bryd hynny.

Byddwn yn cyhoeddi rhestrau byrion y categorïau dros yr wythnosau’n arwain at benwythnos Gwobrau’r Selar ar 16-17 Chwefror.

Categorïau

Mae cwpl o fân newidiadau i’r categorïau eleni....

Yn gyntaf, rydym wedi penderfynu addasu rhywfaint ar gategori eithaf penodol ‘Hyrwyddwr Gorau’ i’w wneud ychydig yn fwy eang. Yr enw newydd fydd ‘Gwobr Hyrwyddwr Annibynnol’, a’r hyn rydan ni’n chwilio amdano gyda’r wobr yma ydy person, neu grŵp o bobl, sy’n gwneud cyfraniad mawr i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg mewn amryw ffyrdd ond efallai heb fawr o ddiolch. Rydym dal yn awyddus i hyrwyddwyr a threfnwyr gigs annibynnol gael eu hystyried yn y categori yma, ond yn teimlo bod angen taflu’r rhwyd yn ehangach felly gall y rhestr gynnwys rhywun sy’n rhedeg label bach annibynnol neu’n sgwennu blog cerddoriaeth efallai.

Mae’r ail newid yn un llai, ac yn ymwneud yn fwy â diffinio categori ‘Record Fer Orau’. Gyda chymaint o ganeuon yn cael eu rhyddhau’n ddigidol erbyn hyn, mae’n anoddach diffinio ‘sengl’, felly rydym wedi penderfynu mai dim ond casgliadau byr o ddwy gân neu fwy fydd yn cael eu hystyried ar gyfer y categori ‘Record Fer’ – mae categori ‘Cân Orau’ yn gwneud y job ar gyfer caneuon unigol.

-          Record Fer Orau

-          Cân Orau (i’w rhyddhau / cyhoeddi ar unrhyw fformat)

-          Gwobr Hyrwyddwr Annibynnol

-          Gwaith Celf Gorau

-          Cyflwynydd Gorau

-          Artist unigol Gorau

-          Band neu artist newydd Gorau

-          Digwyddiad Byw Gorau

-          Band y Flwyddyn

-          Record Hir Orau

-          Offerynnwr Gorau

-          Fideo cerddoriaeth gorau

Rhaid i’r holl enwebiadau cynnyrch fod wedi eu rhyddhau ym mlwyddyn galendr 2017 i fod yn gymwys, a rhaid i’r digwyddiad byw fod wedi digwydd yn 2017. Mae mwy o wybodaeth yng Nghanllawiau Gwobrau’r Selar.

Felly, ewch ati i enwebu reit handi!