Search site


Pump i’r penwythnos 1/12/17

01/12/2017 14:19

Gig: Twrw Nadolig: Candelas, Alffa, Pyroclastig – Clwb Ifor Bach

Does dim y fath beth a gormod o ddigwyddiadau byw mewn un penwythnos, ond yn sicr, anodd fydd dewis pa ddigwyddiad i fynd iddo y penwythnos yma.

Mae Gwenno Saunders a Machynlleth Sound Machine yn chwarae’n Redhouse Cymru, Merthyr Tudfil heno 1 Rhagfyr am 19:30 (efo bws hefyd yn mynd yno o Glwb Ifor Bach, Caerdydd am 18:00).

Hefyd heno, bydd Patrobas yn chwarae yn y Lion, Tudweiliog am 21:00, a Sweet Baboo yn chwarae’n y Transport Club, Caerdydd am 19:00.

Mae’r Libertino yn cynnal noson yn y Parot heno am 20:00 gyda The Tates, Los Blancos, Papur Wal a Names yn chwarae.

Yng Nghlwb Ifor heno mae Twrw Nadolig efo chwip o lein-yp sy’n cynnwys Candelas, Alffa a Pyroclastig, y gig yn dechrau am 19:00.

Daw llwyddiant i Sioeau Nadolig Al Lewis a’i Ffrindiau yn Canton, Caerdydd heno a nos fory wrth iddynt werthu allan ymlaen llaw – ond cadwch eich clustiau’n agored rhag ofn y daw tocyn sbâr.

Mae Euros Childs a Mr Huw yn chwarae’n Rascals, Bangor heno hefyd am 19:30, a nos Sadwrn 2 Rhagfyr mae Euros a Names yn chwarae yn Theatr Arad Goch, Aberystwyth am 19:30 – ond bod y tocynnau hefyd wedi gwerthu allan.

Bydd y Spirit of 58 yn cynnal parti yn y Neuadd Buddug yn Bala hefo Phil Gas a’r Band yn chwarae – y noson yn cychwyn am 18:00

Digonedd o ddewis!

Record: Peiriant Ateb - Y Cledrau

Mae albwm Y Cledrau, Peiriant Ateb, allan heddiw 1 Rhagfyr ar label recordiau I Ka Ching. Dyma albwm cyntaf y band o ardal y Bala, albwm sydd wedi bod yn dwyn sylw’r cyfryngau ers misoedd, gan fod y band wedi bod yn rhyddhau traciau o’r albwm bob mis i’w chwarae ar Radio Cymru a Radio Wales.

O ganlyniad, bu un o’u tiwns mwyaf poblogaidd sef ‘Cliria Dy Bethau’ yn Drac yr Wythnos ar Radio Cymru ddechrau mis Medi.

Yn Stiwdio Drwm, Llanllyfni y bu’r band o bedwar yn recordio’r tro hwn, sef stiwdio Osian Williams ac Ifan Emlyn Jones o Candelas – dau a fu hefyd yn gweithio â’r Cledrau ar eu EP cyntaf sef Un Ar Ôl y Llall nôl yn 2015.

Fe arhoson nhw hefyd yn driw i’r un artist a greodd y gwaith celf ar gyfer yr EP, sef Steffan Dafydd.

Gellir prynu ‘Peiriant Ateb’ o wefan I Ka Ching, siopau cerddoriaeth lleol, a’i lawr lwytho’n ddigidol o 1 Ionawr 2018 ymlaen.

Cymrwch gip arnynt yn siarad am yr albwm tra’n chwarae ‘Heads Up’ isod ar HANSH!

 

Artist: Mared Williams

Tydi enw Mared Williams ddim yn un anghyfarwydd i’r Selar a’n darllenwyr - bydd llawer yn gwybod amdani fel prif leisydd, a chwaraewr allweddellau y band roc a phop Trŵbz.

Mae Mared ar fin astudio Cerdd yn ei blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Leeds, ac ers mis Medi, wedi rhyddhau EP newydd o gerddoriaeth gwreiddiol o’r enw Noises in the Night, sydd hefyd ar gael ar Spotify, iTunes ac Apple Music.

Mae sengl Nadolig newydd ar y ffordd ganddi, sef Dolig Dan y Lloer a fydd allan yr wythnos nesaf 8 Rhagfyr 2017. Fe recordiwyd y gân yn fyw i gyd-fynd â fideo ohoni, fydd hefyd yn cael ei ryddhau’n fuan ar YouTube.

Disgrifir y gân fel un sy’n datgan y teimlad o gyrraedd adref am y gwyliau, a’r gytgan “yn atsain y gobaith sydd yn dod hefo ‘Dolig, er ei bod hi’n gorfod dychwelyd yn ôl i’r Brifysgol yn fuan”.

Mae cyfle i ddal Mared yn chwarae’r sengl newydd mewn cyngerdd yn Eglwys Sant Myllin, Llanfyllin ar 9 Rhagfyr – a bydd hefyd i’w gweld ar y rhaglen deledu ‘Y Gig’ fydd yn cael ei darlledu ar 30 Rhagfyr, fel rhan o fand mawr Jazz Rhys Taylor.

 

Cân: ‘Gad i mi gribo dy wallt’ - Bitw

Mae prosiect newydd Gruff ab Arwel (Eitha Tal Ffranco, Y Niwl, Gruff Rhys ayb) yn rhyddhau cân newydd heddiw, sef ‘Gad i Mi Gribo Dy Wallt’ fel rhan o Senglau Sain, sef prosiect ar y cyd rhwng labeli Sain a Turnstile.

I’r rhai sy’n anghyfarwydd â senglau sain – roedd yn brosiect oedd yn digwydd yn yr 80au, pan gychwynnodd Sain gyfres dylanwadol o senglau 7" dan yr enw Senglau Sain. Ymysg y senglau hynny roedd rhai gan Bando a Rhiannon Tomos a'r Band.

O heddiw ymlaen, mae Senglau Sain yn cael eu hatgyfodi, ac er eu bod nhw’n defnyddio’r un gwaith celf, y tro hwn mi fyddan nhw’n rhyddhau traciau unigol gan artistiaid newydd yn ddigidol. Bob mis bydd artistiaid newydd yn ymweld â Stiwdio Sain i recordio trac a saethu fideo gyda'r gwaith yn cael ei ryddhau ar ddydd Gwener cyntaf pob mis.

Ar ddiwedd y flwyddyn, bydd yr holl senglau yn cael eu rhyddhau ar ffurf caled mewn casgliad 12 trac.

Trac swyddogol cyntaf y band Bitw yw’r cyntaf i’w rhyddhau, a fe ddisgrifir y sengl yn “Melodi, offeryniaeth, lleisiau a theitl cân berffaith.

Da ni’n edrych ymlaen at gael gweld mwy o fideos felma’n cael eu rhyddhau yn ecsgliwsif ar YouTube Ochr 1 yn fisol o heddiw ymlaen!

 

Un peth arall..: Gwilym yn rhyddhau ail-recordiad o Llechan Lân heddiw

Un peth arall cyffrous dros ben sy’n digwydd heddiw, yw bod Gwilym yn rhyddhau eu hail-recordiad o’r gân ‘Llechan Lân’, ar label Recordiau Côsh.

Mae’r band Gwilym, o Fôn ac Arfon wedi dod yn boblogaidd dros ben mewn amser byr iawn. Daeth hyn i’r amlwg wrth iddynt berfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Môn eleni, gan dynnu torf sylweddol o bobl i ddawnsio yn ystod eu set yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau.

Y recordiad newydd o ‘Llechan Lân’ yw eu sengl masnachol gyntaf, ac mae ar gael ar-lein yn unig ar y funud.

Braf gweld cynnyrch newydd gan fand newydd hynod addawol.

Ewch amdani a’i lawrlwytho fan hyn neu g’rando arni ar spotify.