Search site


Article archive

Pump i’r Penwythnos 19/01/18

19/01/2018 10:55
Gig: Gwenno – Ucheldre, Caergybi 20 Ionawr Awydd rhywbeth bach gwahanol i wneud heno? Wel, mae noson o ddathlu menywod yn y Parrot, Caerfyrddin sef FEMME-Art. Mae cymysgedd o farddoniaeth, celf, cerddoriaeth a chomedi’n cael ei ddathlu – y cyfan yn cael ei ddangos gan fenywod yno o 19:00 ymlaen....

Pump i’r penwythnos 12/01/18

12/01/2018 09:39
Gigs: Gwilym Bowen Rhys, Iestyn Tyne, Osian Morris, Alaw Fflur Jones, Nicolas Davalan a cherddorion o Wlad y Basg Nid yn aml y cawn glywed cerddorion o Wlad y Basg yn ein gigs wythnosol yng Nghymru. Dyma pam mae’n bwysig eich bod chi’n cymryd mantais o’r cyfle yma ac yn brysio i’r Llew Gwyn yn...

Artistiaid ifanc yn recordio gyda Recordiau Côsh

11/01/2018 22:04
Bu’r Selar yn sgwrsio â Yws Gwynedd yn ddiweddar, sy’n rhedeg Recordiau Côsh. Ac mae’n gyfnod cyffrous i'r label wrth i Yws gymryd cyfnod o egwyl o berfformio er mwyn canolbwyntio ar ryddhau cynnyrch gan nifer o fandiau ifanc. Mae’r grŵp ifanc o Lŷn, Pyroclastig, wedi recordio un cân gyda’r label....

Fideo ‘Aflonyddu’ gan OSHH

11/01/2018 22:00
Cafodd fideo newydd ei uwch lwytho gan Ochr 1 a HANSH ar ddydd Gwener 5 Ionawr, ar gyfer y trac ola’ o albwm diweddar OSHH, prosiect Osian Howells (basydd Yr Ods) o Star, Ynys Môn. Mae OSHH yn artist sydd wedi cael llawer o sylw yn ddiweddar ers rhyddhau ei albwm newydd nôl yn nechrau’r Hydref...

Heather Jones i dderbyn gwobr Cyfraniad Arbennig

10/01/2018 22:23
Mae’n falch gan Y Selar gyhoeddi mai Heather Jones fydd yn derbyn gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar eleni. I nodi’r wobr, ac fel dathliad o’i chyfraniad arbennig i’r diwydiant cerddoriaeth Cymraeg ers y 1960au, bydd Heather yn perfformio mewn gig arbennig yn Aberystwyth ar nos Wener...

Pump i’r penwythnos 05/01/18

05/01/2018 18:44
Blwyddyn newydd dda hyfryd Selaryddion, a diolch unwaith eto am eich holl gefnogaeth trwy gydol y flwyddyn â fu – blwyddyn wych arall i’r sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes. Rhwng Yws Gwynedd yn denu’r dorf fwya erioed i Maes B, llwyth o gynnyrch newydd amrywiol yn ymddangos a degau o fandiau ac...

Adolygiad: Tangnefedd - Plant Duw

04/01/2018 22:06
  Dyw Plant Duw erioed wedi dilyn y drefn ddisgwyliedig o fod mewn band. Dydyn nhw ddim yn chwarae’n fyw yn aml iawn ac mae recordiau’r band yn cael eu rhyddhau’n achlysurol iawn. Er hynny, i’r rhai fel fi sydd wedi dilyn y grŵp o’r dechrau, mae cyffro o amgylch pob record a gig ac o gân...

The Routines: mwy o gynnyrch ar y ffordd

28/12/2017 14:45
Mae The Routines wedi datgelu bod ganddynt fwy o gynnyrch ar y ffordd, gan ddweud eu bod yn bwriadu rhyddhau tair cân newydd dros y mis neu ddau nesaf. Daw y triawd, sef Dion Jones (llais a gitâr), Jamie Thomas (gitâr fas) a Gethin Magee (dryms) o Gaernarfon - mae’r tri yn adnabod ei gilydd ers...

Gŵyl Nôl a Mla’n yn cyhoeddi dyddiad Gŵyl 2018

28/12/2017 08:15
Mae Gŵyl Nôl a Mla’n wedi cyhoeddi dyddiad penwythnos yr ŵyl flynyddol, a gynhelir yn Llangrannog, ar gyfer 2018. Dyma un o wyliau bach mwyaf poblogaidd Cymru ar hyn o bryd, gyda channoedd o bobl yn heidio i Langrannog ers sawl blwyddyn i fwynhau rhai o artistiaid gorau Cymru mewn lleoliad unigryw...

Adwaith: Ffilm ddogfen fer

28/12/2017 08:12
Mae Ochr 1 wedi cyhoeddi ffilm ddogfen ‘Femme’ sy’n dilyn diwrnod ym mywyd y grŵp ifanc o Gaerfyrddin, Adwaith. Adwaith ydy un o’r grwpiau sydd wedi dod i’r amlwg yn fwy na neb yn ystod 2017, ac mae’r ffilm fer  yn eu dilyn wrth iddyn nhw berfformio yn gig ‘Femme’ yng Nghlwb Ifor Bach,...
Items: 21 - 30 of 447
<< 1 | 2 | 3 | 4 | 5 >>