Search site


Artistiaid ifanc yn recordio gyda Recordiau Côsh

11/01/2018 22:04

Bu’r Selar yn sgwrsio â Yws Gwynedd yn ddiweddar, sy’n rhedeg Recordiau Côsh. Ac mae’n gyfnod cyffrous i'r label wrth i Yws gymryd cyfnod o egwyl o berfformio er mwyn canolbwyntio ar ryddhau cynnyrch gan nifer o fandiau ifanc.

Mae’r grŵp ifanc o Lŷn, Pyroclastig, wedi recordio un cân gyda’r label. Yn ôl Yws, bydd y sengl allan ar ôl i Pyroclastig benderfynu lle y hoffent fynd â’r band, a dywed eu bod hefyd wedi bod yn trafod recordio albwm.

Mae Gwilym, y band ifanc o Fôn a Chaernarfon wedi bod yn recordio hefyd, a bydd sengl allan ganddynt ddiwedd y mis yma. Mae sôn bod mwy o gynnyrch ar y ffordd ganddynt erbyn Mehefin hefyd. 

“Ma’ Gwilym hefo rhywbeth pendant – da ni am drio rhyddhau rhywbeth erbyn Mehefin” meddai Yws Gwynedd.

Artist arall sy’n gweithio gyda Côsh ydy Lewys Maredydd, sef cerddor sydd wedi cael sylw gan Pump i'r Penwythnos Y Selar yn y gorffennol.

Mae Lewys ar fin recordio gyda’r label, ac wrthi ar y funud yn ceisio rhoi band at ei gilydd “sydd yn gyffrous” dywedodd Yws.

“Dyna be sy’n fy nghyffroi i – gweld y rhai ifanc yn cyffroi am fynd i’r stiwdio am y tro cyntaf.” Bydd Lewys Maredydd yn rhyddhau sengl newydd ddiwedd Ionawr, gyda mwy o fanylion i ddilyn yn fuan.

Gyda Rich Roberts yn Stiwdio Ferlas y bu’r bandiau’n recordio, a dywed Yws “Efo Rich dwi ‘di g’neud bob dim erioed, a swni’n licio cario ‘mlaen yn g’neud hynna.”