Search site


Heather Jones i dderbyn gwobr Cyfraniad Arbennig

10/01/2018 22:23

Mae’n falch gan Y Selar gyhoeddi mai Heather Jones fydd yn derbyn gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar eleni.

I nodi’r wobr, ac fel dathliad o’i chyfraniad arbennig i’r diwydiant cerddoriaeth Cymraeg ers y 1960au, bydd Heather yn perfformio mewn gig arbennig yn Aberystwyth ar nos Wener penwythnos Gwobrau’r Selar, sef nos Wener 16 Chwefror.

Mae Heather Jones yn perfformio ar lwyfannau Cymru ers dechrau’r 1960au. Yn wreiddiol roedd yn aelod o’r grŵp Y Cyfeillion, a ffurfiwyd yn Ysgol Cathays ym 1964, cyn dechrau perfformio’n unigol ym 1966. Eleni, yn 2018, rydym yn nodi union hanner can mlynedd ers iddi rhyddhau ei cynnyrch unigol cyntaf sef yr EP ‘Caneuon Heather Jones’ a ryddhawyd ar label Welsh Teldisc ym 1968.

Ar ddiwedd y 60au roedd hi’n aelod o’r grŵp Y Bara Menyn gyda dau o hoelion wyth eraill y sin, Meic Stevens a’i darpar ŵr, Geraint Jarman. Geraint Jarman oedd enillydd gwobr Cyfraniad Arbennig Y Selar llynedd. Enillodd Heather gystadleuaeth Cân i Gymru ym 1972 gyda chân oedd wedi’i chyfansoddi gan Geraint Jarman, ‘Pan Ddaw’r Dydd’.

Dros y degawdau ers hynny mae Heather wedi parhau’n hynod weithgar gan gigio’n gyson a rhyddhau cynnyrch yn rheolaidd.

Cyfraniad pwysig

 “Y bwriad gyda’r wobr ydy talu teyrnged i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i’r sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes dros amser sylweddol, a heb os mae Heather yn disgyn i’r categori hwnnw" meddai trefnydd Gwobrau'r Selar, Owain Schiavone. 

"Mae wedi gwneud cyfraniad eang yn gerddorol, ond hefyd o safbwynt rhoi lle i ferched ar lwyfannau Cymru, ac mewn diwydiant sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion.”

“Er mewn sioc, rwy’n falch iawn bod Y Selar yn teimlo fy mod yn haeddu’r wobr yma" meddai Heather Jones. 

"Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y gig yn Aberystwyth, a byddai’n siŵr o gynnwys yr hen ffefrynnau yn y set.”

Bydd cefnogaeth ar y noson gan un o gantoresau amlycaf y sin ar hyn o bryd, Alys Williams. 

Dyma un o diwns anhygoel o dda Heather, 'Nos Ddu':