Search site


The Routines: mwy o gynnyrch ar y ffordd

28/12/2017 14:45

Mae The Routines wedi datgelu bod ganddynt fwy o gynnyrch ar y ffordd, gan ddweud eu bod yn bwriadu rhyddhau tair cân newydd dros y mis neu ddau nesaf.

Daw y triawd, sef Dion Jones (llais a gitâr), Jamie Thomas (gitâr fas) a Gethin Magee (dryms) o Gaernarfon - mae’r tri yn adnabod ei gilydd ers blynyddoedd, ac wedi bod yn gyfeillion trwy gydol eu hamser yn yr ysgol.

Bu The Routines yn gigio tipyn o gwmpas Lloegr yn y gorffennol, gan hefyd ganolbwyntio ar ysgrifennu caneuon yn y Saesneg. Maent wedi chwarae tipyn ym Manceinion, Leeds a nifer o drefi eraill yng Ngogledd Gorllewin Lloegr yn y gorffennol, ond bellach wedi troi eu golygon yn ôl at Gymru a chanu yn y Gymraeg.

Fe ryddhawyd eu cân Gymraeg gyntaf, sef ‘‘di Arfar’ nôl ym mis Hydref, ac fe ryddhawyd fideo iddi hefyd â saethwyd gan Owain Llyr a Mark Bach o’r cwmni Gweledigaeth. Mae’r fideo wedi ei wylio dros 11,000 o weithiau hyd yma, ac mae i’w weld ar eu tudalen Facebook, ac eu Sianel YouTube.

Mae’r fideo hefyd wedi cyrraedd rhestr hir categori ‘Fideo Gorau’ Gwobrau’r Selar eleni.

Mae trac ‘‘di Arfar’ hefyd ar gael ar Spotify ac Apple Music.