Search site


Pump i’r penwythnos 05/01/18

05/01/2018 18:44

Blwyddyn newydd dda hyfryd Selaryddion, a diolch unwaith eto am eich holl gefnogaeth trwy gydol y flwyddyn â fu – blwyddyn wych arall i’r sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes. Rhwng Yws Gwynedd yn denu’r dorf fwya erioed i Maes B, llwyth o gynnyrch newydd amrywiol yn ymddangos a degau o fandiau ac artistiaid newydd yn dod i’r wyneb, bu 2017 yn flwyddyn gofiadwy.

Ac mae’r flwyddyn yma’n addo bod yr un mor fyrlymus eto, gyda llwyth o ddyddiadau digwyddiadau byw dros y misoedd nesaf wedi’u cadarnhau yn barod, a llawer o albyms newydd ar y ffordd gan gynnwys rhai gan Candelas, Fleur De Lys, Serol Serol a Dan Amor.

Ond, mae digon i bethau cerddorol ar y gweill reit ar ddechrau’r flwyddyn fel hyn, a dyma eich Pump i’r Penwythnos.

 

Gig: Gwilym Bowen Rhys, Iestyn Tyne ag Eraill – Pantoon, Pwllheli

Prin iawn yw’r gigs yn syth ar ôl ‘Dolig ynde? A chwarae teg – mae’r artistiaid yn haeddu gorffwyso am o leiaf un cyfnod o’r flwyddyn. Bu’n Ddolig llwyddiannus dros ben efo’r holl ddigwyddiadau byw a gynhaliwyd, a’r rhan fwyaf o’r gigs yn orlawn.

Da felly yw gweld bod Gwilym Bowen Rhys wedi camu i’r adwy ac yn chwarae dau gig y penwythnos yma, nos Wener i gychwyn yn y Foelas, Pentrefoelas, ac yna nos Sadwrn yn y Pontoon Pwllheli gydag Iestyn Tyne ac eraill. Doedd dros 100 o gigs yn 2017 yn amlwg ddim yn ddigon i Gwil!

 

Caneuon: ‘Cyrff’ - HMS Morris a ‘Gan bo fi’n gallu’ - Candelas

Anodd oedd dewis rhwng y ddwy gân newydd yma, gan bod y ddwy yn bangars, ac i’w clywed ar raglen ‘Y Gig Fawr’, a gafodd ei ddarlledu ar S4C nos Calan. Cawn glywed cân newydd Candelas yn syth ar ôl i’r dyn ei hun, Osian Candelas, a Lisa Jên (9 Bach) agor y rhaglen. Mae sŵn trwm y gân newydd yn rhoi blas posib o’r hyn sydd i ddod gan Candelas ar eu halbwm newydd fydd allan eleni.

Mae posib gwrando ar ‘Cyrff’ gan HMS Morris 50 munud i mewn i’r rhaglen, cân chwareus hefo Sam unwaith eto’n taro’r nodau falsetto anhygoel o uchel.

 

Record: Toddi – Yr Eira

Mae Yr Eira’n fand sydd wedi bod yn gigio tipyn yn ddiweddar, efo dau ddyddiad ym mis Rhagfyr, ac un arall i fynd mewn cyfres fer o gigs a drefnir ar y cyd rhwng Y Selar, Yr Urdd a phartneriaid lleol eraill.

Mi fyddan nhw’n chwarae yn Cartio Môn ddiwedd y mis gydag Y Cledrau a Fleur De Lys. Does dim chwe mis ers iddynt ryddhau eu record hir gyntaf sef Toddi, ar label Recordiau I KA CHING. Dyma albwm sydd wedi bod yn chwarae yn y car gan Y Selar ers sawl mis erbyn hyn ac rydan ni wrth ein bodd â hi. Mae amrywiaeth o ganeuon i’w clywed ar y campwaith - o araf i gyflym, o Saesneg i Gymraeg, ac o dawel i drwm ond eto yn plethu mewn i un darn o gelf.

Dyma un o oreuon yr albwm,  ‘Gadael am yr Haf’:

 

Artist: OSHH

Artist sydd wedi cael dipyn o sylw’n ddiweddar ers rhyddhau ei albwm newydd nôl yn nechrau mis Hydref. Oshh ydy prosiect unigol Osian Howells, basydd Yr Ods a ddaw o Star, Ynys Môn. Yn dilyn llwyddiant yr albwm fe ryddhaodd sengl o’r albwm ‘OSHH’ ar 15 Rhagfyr sef ‘Sibrydion’, a hynny ar label Recordiau Blinc. A heddiw mae fideo i’w gân ‘Aflonyddu’ yn cael ei ryddhau gan Ochr 1 a HANSH - y trac ola’ ar ei albwm.

Mae’r fideo’n un mynyddig, hudolus a gofodol iawn sy’n cyd-fynd i’r dim â’r gerddoriaeth.

Gallwch hefyd ddarllen cyfweliad ag Osh yn rhifyn diweddaraf Y Selar.

 

Un peth arall..: Cyfle olaf i bleidleisio ar gyfer Gwobrau’r Selar

Ers rhyw fis bellach da ni ‘di bod yn derbyn eich pleidleisiau ar gyfer Gwobrau’r Selar, gyda’r nifer sydd wedi bwrw pleidlais bellach yn agos at 1400.  Rydych wedi bod yn pleidleisio dros eich hoff ganeuon, fideos, artistiaid, bandiau, albyms, a nifer o gategorïau amrywiol eraill sy’n ymwneud â miwsic Cymraeg yn 2017.

Er cymaint sydd wedi pleidleisio, mae rhai categorïau dal yn hynod o agos. Felly os am weld eich hoff fand, neu artist yn bachu gwobr ar y llwyfan mewn mis – ewch amdani gan mai heddiw fydd eich cyfle ola! Mae’r bleidlais yn cau am hanner nos.

Cofiwch hefyd bod y tocynnau’n prysur werthu – peidiwch colli uchafbwynt cerddorol hanner cyntaf y flwyddyn.