Search site


Adwaith: Ffilm ddogfen fer

28/12/2017 08:12

Mae Ochr 1 wedi cyhoeddi ffilm ddogfen ‘Femme’ sy’n dilyn diwrnod ym mywyd y grŵp ifanc o Gaerfyrddin, Adwaith.

Adwaith ydy un o’r grwpiau sydd wedi dod i’r amlwg yn fwy na neb yn ystod 2017, ac mae’r ffilm fer  yn eu dilyn wrth iddyn nhw berfformio yn gig ‘Femme’ yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd yn ddiweddar.

Merched ydy’r dair aelod o Adwaith, rhywbeth eithaf prin yn y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes, ac mae’r ffilm yn drafodaeth o hynny wrth i’r aelodau, ac ambell wyneb arall amlwg yn y sin, siarad yn ffraeth am y pwnc.

Mae modd gweld y fideo ar gyfryngau amrywiol Hansh, neu ar sianel YouTube Ochr 1...a dyma hi isod: