Search site


Adolygiad: Tangnefedd - Plant Duw

04/01/2018 22:06

 

Dyw Plant Duw erioed wedi dilyn y drefn ddisgwyliedig o fod mewn band. Dydyn nhw ddim yn chwarae’n fyw yn aml iawn ac mae recordiau’r band yn cael eu rhyddhau’n achlysurol iawn.

Er hynny, i’r rhai fel fi sydd wedi dilyn y grŵp o’r dechrau, mae cyffro o amgylch pob record a gig ac o gân gynta’r albwm hwn, mae rhywun yn cael ei dynnu nôl i mewn i fyd unigryw y band o Fangor. 

Mae’r gân gyntaf, ‘Faint o Betha Wyt Ti’n Gal?’ a ‘Trempyn’ yn dangos gallu sgwennu caneuon pop Plant Duw ar ei orau ac mae ambell drac hefyd yn mynd nôl i wreiddiau pync y band.

Ond beth sydd wastad wedi gwneud Plant Duw yn gyffrous yw’r holl ddylanwadau maen nhw’n eu plethu i mewn i’w caneuon a dyw’r albwm yma ddim gwahanol.

O synau gwerin geltaidd ‘Ma Na Ferch yn Disgwyl Amdana i’ i ddylanwad ysbrydol, gospel a gwerin America ‘Purhau fy Enaid’, does wybod i ble mae’r band yn mynd nesa. Ond mae 'na hyder i’r sgwennu, y cyfansoddi a’r chwarae sy’n cario’r record drwyddi draw.

Does dim ond tri gair ar ôl i’w ddweud, sef slogan y band sy’n dweud cryn gymaint am Plant Duw: “enaid, pync, cariad.”

Ciron Gruffydd