Search site


Pump i’r penwythnos 24.11.17

24/11/2017 14:44

Gig: Blwyddyn Yn Nghwmni Neb: Twinfield, Ani Glass, Machynlleth Sound Machine – 25/11/17

Mae Recordiau Neb yn dathlu blwyddyn o fodolaeth y penwythnos yma, gan gychwyn hefo gig yn y Sustainable Studio, Caerdydd nos Sadwrn 25 Tachwedd. Bydd DJ Gareth Potter a DJ Bernie Conner hefyd yn troi tiwns yno.

Nos Wener - mae Daniel Lloyd a Mr Pinc a Hywel Pitts yn chwarae yn Neuadd Y Felinheli.

Hefyd yn Nhŷ Tawe, Abertawe nos Wener bydd The Gentle Good yn gwneud set acwstig, gyda’r noson yn cychwyn am 17:00.

Nos Sadwrn 25 Tachwedd bydd Alys Williams a’r Band yn chwarae yn y Neuadd Bentref Llanuwchllyn gyda chefnogaeth gan Tacla a Katie Brunskhill.  Ac os da chi ffansi ‘chydig o fadarch a cerddoriaeth mae noson o gerddoriaeth a bwyd hudolus yng nghwmni Gwyneth Glyn a Twm Morys yn Neuadd Ogwen, Bethesda nos Sadwrn.

Ym Manceinion nos Sadwrn mae Band Pres Llareggub yn chwarae yn Matt & Phredz Jazz Club.

Rhywbeth i bawb!

 

Cân: ‘Paid a Throi i Ffwrdd’ - Monday Night Side Project

Mae'r band o Gaerdydd, Monday Night Side Project, wedi rhyddhau sengl newydd ers 14 Tachwedd o’r enw 'Paid a Throi Ffwrdd'. Fe’i recordiwyd yn stiwdio Gareth Bodman, ac fe’i mastrwyd yn Hafod Mastering.

Aelodau'r band ydy Sioned Maskell (ffidl a llais), Matt (gitâr a llais), Josh (gitâr fas) a John (dryms). Dyma fand gweddol newydd, sydd di bod yn cyfansoddi yn Saesneg ac yn y Gymraeg ers rhai misoedd erbyn hyn. Fe ryddhawyd sengl Saesneg ddiwedd Medi, sydd hefyd i’w chlywed ar Sound Cloud.

Mewn sgwrs â'r Selar nôl ym mis Chwefror, meddai Sioned am eu cerddoriaeth “dwi wastad wedi dod o gefndir genre clasurol, ac wedi ysu i drio genres newydd, gyda’r electric violin. Fi’n mwynhau gymaint yn fwy nawr, yn chwarae’r ffidl a chanu tra’n arbrofi gyda  genres newydd fel alternative rock. Mae’n bwysig dysgu nad yw’r ffidl (a sawl offeryn clasurol arall!) yn rhywbeth sydd yn gaeedig i’r genre clasurol yn unig.

Maent wedi bod yn gigio'n brysur ers sawl mis, ac mae cyfle i’w dal yn Llundain 9 Rhagfyr a Chaerdydd 21 Rhagfyr.

Artist: Los Blancos

Mae fideo newydd wedi’i uwchlwytho ar You Tube heddiw gan Ochr 1, sef ‘Dadgysylltu’ gan Los Blancos.

Bu’r band yn brysur yn creu ‘hud sonig’ yn ddiweddar yn y stiwdio gyda’r cynhyrchydd adnabyddus Sir Doufus Styles.

Dyma’r cynnyrch diweddaraf i ni glywed gan Los Blancos, fydd eto’n cael ei ryddhau ar label Libertino. Byddwch yn cofio eu tiwn poblogaidd  ‘Mae’n Anodd Deffro Un’ a ryddhawyd gychwyn yr haf.

Mae aelodau’r band slacker/garage rock o Gaerfyrddin yn cynnwys Gwyn Rosser, Emyr Sion, Dewi Jones ac Osian Owen. Tyfodd Los Blancos o lwch y ddeuawd blŵs Tymbal – band blaenorol Emyr a Gwyn. Emyr sydd hefyd yn bennaf gyfrifol am Argrph wrth gwrs.

Daliwch y ddau fand yma’n chwarae’n yn y Parot, Caerfyrddin ar 1 Rhagfyr, yn ogystal â Papur Wal (sydd hefyd yn cynnwys Dewi Jones ymysg yr aelodau) a The Tates, sydd hefyd ar label Libertino.

 

Record: Dyn y Diesel Coch - Welsh Whisperer

Mae ail albwm un o’r artistiaid Cymraeg prysuraf, os nad y prysuraf ar hyn o bryd, allan yn swyddogol ers wythnos diwetha’.

Dyn y Diesel Coch ydy enw casgliad diweddaraf y Welsh Whisperer, ac mae’r albwm yn cael ei ryddhau ar y cyd rhwng labeli Tarw Du a Fflach. Praw o boblogrwydd yr W.W. ydy’r ffaith iddo gyhoeddi’n ddiweddar ei fod wedi chwarae 52 gig eleni’n barod – a bydd wedi gwneud 54 erbyn diwedd 2017.

Mae’r albwm yn cael ei ddisgrifio gan y labeli fel “albwm 10 trac newydd sbon llawn canu gwlad, gwerin a hiwmor unigryw. Mae’r crwner o Sir Gâr ar dân am glap a chân yn fwy nac erioed ac unwaith eto mae rhai o gerddorion gorau canu gwlad Cymru ac Iwerddon wedi dod ynghyd i recordio ei albwm newydd ‘Dyn y Diesel Coch”.

Mae’r albwm ar gael i’w brynu mewn siopau Cymraeg, a bydd modd ei brynu’n ddigidol ar 15 Ionawr. 

 

Un peth arall..: Criw ifanc yn sefydlu ‘Gigs y Gilfach Ddu’

Braf yw clywed bod criw o bobl ifanc o ardal Dyffryn Peris wedi dod at ei gilydd i drefnu mwy o gigs yn ardal Llanberis.

Bydd mwy o ddigwyddiadau byw yn yr ardal o hyn ymlaen, diolch i griw sy’n gweithio o dan yr enw Gigs y Gilfach Ddu.

Ar ôl gweld bod cyfle i drefnu mwy o ddigwyddiadau cerddorol yn y fro, a hynny ar ôl sylwi bod diffyg gigs yno daethant at ei gilydd i sefydlu ‘Gigs y Gilfach Ddu’ “gan dynnu ar hanes a dylanwad y chwarel ar gerddoriaeth yr ardal”. 

Bydd gig cyntaf Gigs y Gilfach Ddu yn cael ei chynnal yng Nghlwb Llanberis 28 Rhagfyr hefo chwip o lein-yp yn cynnwys y bandiau lleol Alffa, Gwilym ac Y Reu yn perfformio.

Esgus perffaith i wrando ar BEEF gan y Reu a ryddhawyd nôl ym mis Mehefin.