Oni bai eich bod chi wedi bod yn byw mewn ogof dros y mis diwethaf, fe fyddwch chi’n gwybod mai Heather Jones fydd yn derbyn gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ Gwobrau’r Selar eleni.
Byddwn ni’n talu teyrnged i Heather Jones, ac yn dathlu ei chyfraniad aruthrol i’r sin mewn gig arbennig yn yr Hen Goleg yn...
Gig: Yr Eira, Fleur De Lys a Y Cledrau – Cartio Môn
Chydig o bethe’ ‘mlaen y penwythnos yma fydd falle o ddiddordeb i bobl o bob oed!
Heno, 26 Ionawr, mae’r ŵyl werinol, Gŵyl Gwion Bach, yn cychwyn yn Llanfair Caereinion efo deuawd Ryland Teifi a Stomp gydag Anni Llyn. Bydd yr ŵyl yn parhau ddydd...
Mae Y Selar yn falch iawn i gyhoeddi dwy restr fer arall ar gyfer Gwobrau’r Selar eleni – y tro yma categorïau ‘Hyrwyddwr Annibynnol Gorau’ a ‘Record Fer Orau’ sy’n cael y sylw.
Y tri hyrwyddwr sydd wedi cyrraedd rhestr fer y categori ‘Hyrwyddwr Annibynnol Gorau ydy Clwb Ifor Bach, Recordiau I Ka...
Rhag ofn i chi golli'r newyddion wythnos diwethaf, rydan ni wedi cyhoeddi lein-yp llawn perfformwyr noson Wobrau’r Selar sy'n digwydd ar nos Sadwrn 17 Chwefror yn Aberystwyth.
Ymysg perfformwyr eleni mae tri o enwau amlycaf y sin ar hyn o bryd – Yr Eira, Band Pres Llareggub a Mr Phormula – y tri...
Mae label Recordiau Cae Gwyn, sef y label Cymreig amgen o Ddyffryn Conwy sy’n cael ei redeg gan y cerddor Dan Amor yn dathlu eu pen-blwydd yn ddeg oed eleni.
I ddathlu, ac i gyd-fynd â Dydd Miwsig Cymru, mae’r label yn cyhoeddi ‘Casgliad Cae Gwyn’, sef albwm CD aml gyfrannog. Ac nid dyna’r...