Search site


Tocynnau Gwobrau'r Selar

 
Mae tocynnau Gwobrau'r Selar ar werth nawr! 
 
Unwaith eto eleni rydym wedi gwneud pob ymdrech i gadw pris tocynnau'r digwyddiad mor isel â phosib. Mae'r pris wedi codi i'r pris llawn bellach, sef £17 (sydd dal yn fargen!).
 
Ble ga'i docyn? 
 
Mae siop docynnau ar-lein Gwobrau'r Selar bellach ar gau, er mwyn caniatau amser postio i gwsmeriaid. 
 
Mae dal modd prynu tocynnau  mewn nifer o siopau - manylion isod.

 

Siopau sy'n gwerthu Tocynnau
 
Mae modd i chi brynu tocynnau Gwobrau'r Selar mewn nifer o siopau mewn gwahanol ardaloedd o Gymru:
 
Llên Llŷn, Pwllheli
Palas Print, Caernarfon
Awen Meirion, Y Bala,
Siop Inc, Aberystwyth
Siop y Pethe, Aberystwyth
Caban, Caerdydd
Swyddfa UMCA, Prifysgol Aberystwyth
 
 

Gig Cyfraniad Arbennig Heather Jones

Ar nos Wener 16 Chwefror, byddwn unwaith eto'n cynnal gig i ddathlu gwaith enillydd gwobr 'Cyfraniad Arbennig' Gwobrau'r Selar eleni gyda Heather Jones a chefnogaeth gan Alys Williams. Mae'r tocynnau ar werth nawr am £8 yn unig.
 
Mae modd i chi brynu tocynnau i'r gig o'r siopau canlynol:
 
Siop Inc, Aberystwyth
Siop y Pethe, Aberystwyth