Search site


Pôl Piniwn: Cân orau Heather Jones

31/01/2018 20:23

Oni bai eich bod chi wedi bod yn byw mewn ogof dros y mis diwethaf, fe fyddwch chi’n gwybod mai Heather Jones fydd yn derbyn gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ Gwobrau’r Selar eleni.

Byddwn ni’n talu teyrnged i Heather Jones, ac yn dathlu ei chyfraniad aruthrol i’r sin mewn gig arbennig yn yr Hen Goleg yn Aberystwyth ar nos Wener 16 Chwefror i agor penwythnos Gwobrau’r Selar. Bydd cantores amlycaf y sin ar hyn o bryd, Alys Williams yn ei chefnogi mewn noson sy’n siŵr o fod yn gofiadwy – tocynnau ar werth nawr.

Heather ydy un o artistiaid mwyaf hirhoedlog cerddoriaeth Gymraeg gyfoes – yn perfformio ar lwyfannau Cymru ers dros hanner can mlynedd. Mae’r wobr yn amserol eleni gan ein bod yn nodi union hanner can mlynedd ers rhyddhau cynnyrch unigol cyntaf Heather, sef yr EP Caneuon Heather Jones a ryddhawyd ar label Welsh Teldisc ym 1968.

Dewis deg

Bydd y rhan fwyaf ohonoch chi’n cofio mi cyn-ŵr Heather, sef Geraint Jarman, dderbyniodd y wobr Cyfraniad Arbennig llynedd ac efallai y byddwch chi’n cofio i ni gynnal pôl piniwn i ddewis 10 cân orau Jarman. Wel, byddai’n bechod peidio gwneud yr un peth fel rhan o’n teyrnged i Heather Jones eleni, felly dyma gyfle i chi bleidleisio dros eich hoff gân ganddi.

Mae pawb yn gwybod am y clasuron amlwg – ‘Colli Iaith’, ‘Jiawl’, ‘Cwm Hiraeth’ a ‘Penrhyn Gwyn’ efallai ymysg yr amlycaf. Ond wrth dyrchu a gwrando mwy, mae rhywun yn sylweddoli gymaint mwy o ganeuon gwych sydd wedi eu rhyddhau gan Heather, heb sôn am ganeuon fel ‘Cwsg Osian’ o’r sioe gerdd anhygoel Nia Ben Aur.

Mae cyfyngu’r rhestr hir i 22 wedi bod yn her, ac mae angen eich help i lunio’r rhestr hir o 10 felly ewch ati i fwrw eich pleidlais cyn nos Fercher 7 Chwefror.

I roi rhywfaint o help i chi, rydan ni wedi llunio rhestr chwarae o’r caneuon sydd ar Soundcloud isod (o dan y bleidlais), ynghyd â’r caneuon eraill oddi-ar YouTube. Argymell yn gryf eich bod yn gwrando ar rhain i werthfawrogi mawredd Heather Jones – mwynhewch!