Blwyddyn newydd dda hyfryd Selaryddion, a diolch unwaith eto am eich holl gefnogaeth trwy gydol y flwyddyn â fu – blwyddyn wych arall i’r sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes. Rhwng Yws Gwynedd yn denu’r dorf fwya erioed i Maes B, llwyth o gynnyrch newydd amrywiol yn ymddangos a degau o fandiau ac...
Dyw Plant Duw erioed wedi dilyn y drefn ddisgwyliedig o fod mewn band. Dydyn nhw ddim yn chwarae’n fyw yn aml iawn ac mae recordiau’r band yn cael eu rhyddhau’n achlysurol iawn.
Er hynny, i’r rhai fel fi sydd wedi dilyn y grŵp o’r dechrau, mae cyffro o amgylch pob record a gig ac o gân...
Mae The Routines wedi datgelu bod ganddynt fwy o gynnyrch ar y ffordd, gan ddweud eu bod yn bwriadu rhyddhau tair cân newydd dros y mis neu ddau nesaf.
Daw y triawd, sef Dion Jones (llais a gitâr), Jamie Thomas (gitâr fas) a Gethin Magee (dryms) o Gaernarfon - mae’r tri yn adnabod ei gilydd ers...
Mae Gŵyl Nôl a Mla’n wedi cyhoeddi dyddiad penwythnos yr ŵyl flynyddol, a gynhelir yn Llangrannog, ar gyfer 2018.
Dyma un o wyliau bach mwyaf poblogaidd Cymru ar hyn o bryd, gyda channoedd o bobl yn heidio i Langrannog ers sawl blwyddyn i fwynhau rhai o artistiaid gorau Cymru mewn lleoliad unigryw...
Mae Ochr 1 wedi cyhoeddi ffilm ddogfen ‘Femme’ sy’n dilyn diwrnod ym mywyd y grŵp ifanc o Gaerfyrddin, Adwaith.
Adwaith ydy un o’r grwpiau sydd wedi dod i’r amlwg yn fwy na neb yn ystod 2017, ac mae’r ffilm fer yn eu dilyn wrth iddyn nhw berfformio yn gig ‘Femme’ yng Nghlwb Ifor Bach,...