Gig: Un neu ddau gig mlaen penwythnos yma.. lle i gychwyn?!
Wel – gallwch gychwyn yn yr Hen Goleg yn Aberystwyth heno, lle bydd Alys Williams ac Osian Williams yn cefnogi yr anhygoel Heather Jones. Dyma gyfle gwych i dalu teyrnged i Heather wrth iddi dderbyn gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ y Selar.
Yn...
Rydym bellach wedi cyhoeddi holl restrau byr Gwobrau'r Selar eleni, wrth i ni baratoi ar gyfer y noson fawr yn Aberystwyth nos Sadwrn yma.
Y ddwy restr fer olaf i'w cyhoeddi oedd y rhai ar gyfer categoriau 'Artist Unigol Gorau' a 'Band Gorau'.
Mae'r tri cerddor sydd wedi cyrraedd...
Gyda’r rhestrau bron yn gyflawn (dwy olaf i’w cyhoeddi heno!), rydan ni bellach yn gwybod pwy sy’n brwydro am deitlau Gwobrau’r Selar eleni.
Ond bydd un frwydr newydd yn digwydd ar noson Gwobrau’r Selar eleni – sef brwydr Disgo Distaw y Gwobrau!
Fel ychwanegiad newydd i’r arlwy, byddwn yn cynnal...
Nos Wener yma, 16 Chwefror, mewn gig arbennig yn Aberystwyth fe fyddwn ni'n talu teyrged i Heather Jones, gan nodi'r cyfraniad aruthrol mae wedi gwneud i gerddoriaeth Gymraeg dros yr hanner canrif a mwy diwethaf.
Yn perfformio ar lwyfannau Cymru ers 1964, gan ryddhau ei chynnyrch unigol...
Newyddion cyffrous o gyfeiriad Caerfyrddin, sef bod sengl ddwbl newydd ar y ffordd gan Adwaith ar label Libertino.
Mewn cyhoeddiad gan Pyst wythnos yma, cyhoeddwyd bod y triawd “ôl-pync” yn rhyddhau eu sengl dwbl newydd sef 'Fel i Fod / Newid' ar 16 Chwefror.
Dywed Pyst bod ‘Fel i Fod’ yn creu...