Search site


Pump i’r penwythnos 16/02/18

16/02/2018 15:57

Gig: Un neu ddau gig mlaen penwythnos yma.. lle i gychwyn?!

Wel – gallwch gychwyn yn yr Hen Goleg yn Aberystwyth heno, lle bydd Alys Williams ac Osian Williams yn cefnogi yr anhygoel Heather Jones. Dyma gyfle gwych i dalu teyrnged i Heather wrth iddi dderbyn gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ y Selar.

Yn hwyrach, ar ôl gig yr Hen Goleg bydd gig yn yr Hen Lew Du yn Aber efo Bwncath, The Routines a Miskin yn cychwyn am 21:30 – gig ffrinj Gwobrau’r Selar wedi’i drefnu gan UMCA a Gigs Cantre’r Gwaelod.

Os ym Mangor, bydd The Gentle Good yn chwarae fel rhan o Ŵyl Cymru-Tsieina yn Pontio.

Ac, wedi misoedd o baratoi a threfnu, mae’r noson fawr wedi cyrraedd! Bydd prif noson Wobrau’r Selar yn digwydd nos fory 17 Chwefror, hefo CHWIP o lein-yp wedi’i drefnu ar eich cyfer!

Yn chwarae bydd: Yr Eira, Band Pres Llareggub, Cadno, Omaloma, Adwaith, Mr Phormula, Pasta Hull, Serol Serol, Gwilym ac Yr Oria – y drysau yn agor am 16:30. Bydd sgyrsiau a digwyddiadau yn ystod y dydd hefyd gan gynnwys sgwrs efo Heather Jones i gychwyn am 12:00; yna sgwrs efo Anweledig yn dathlu eu pen-blwydd yn 25; ac yna sgwrs hefo hogie Sôn am Sîn – rhain i gyd yn Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn ogystal â Ffair Recordiau yn yr Hen Goleg, cyfle i chi fachu record cŵl!

Hefyd nos Sadwrn, mae Linda Griffiths, Dewi Pws a Lisa Angharad yn Neuadd Bentref Llanuwchllyn. A mae Meic Stevens a Geth a Gles yn chwarae’n Nghanolfan Cymunedol Talysarn, yn Nhalysarn.

Cân: K’TA gan Serol Serol

Sengl sydd di bod yn boblogaidd iawn ers ei rhyddhau hi ers dim ond wythnos yw K’TA gan Serol Serol. Fe ryddhawyd hi ar 7 Chwefror ar Label I KA CHING. A bydd cyfle i glywed y band pop cosmig nos Sadwrn yng Ngwobrau’r Selar.

Fel da chi eisoes yn gwybod - dwy gyfnither yw Serol Serol - Mali Siôn a Leusa Rhys - sydd wedi cyrraedd y ffurfafen ar ôl rhyddhau ‘Cadwyni’ ac yna ‘Aelwyd’ ddiwedd 2017.

Bydd albwm cyntaf y band, sy’n dwyn yr un enw â’r grŵp yn cael ei rhyddhau ar 23 Mawrth. Da ni methu aros!

Mae posib clywed K’TA fan hyn:

 

Record: Toddi gan Yr Eira

Band sy’n haeddiannol iawn o gymryd y slot hed-leinio am y tro cyntaf yng Ngwobrau’r Selar ‘leni ydy’r Eira.

Daeth y bangar o record yma allan haf diwetha’, ac yn ddiweddar buon nhw’n teithio fel rhan o gyfres o gigs Y Selar a’r Urdd yn ei hyrwyddo hi.

Dwi’n siŵr mai nid dyma’r tro cyntaf y byddwn ni’n gweld Yr Eira’n hed-leinio

 

Artist: Band Pres Llareggub

Band sy’n tyfu a thyfu pob blwyddyn yw Band Pres Llareggub. Da ni’n lwcus o’u cael nhw ‘leni yng Ngwobrau’r Selar, gan eu bod nhw’n fand hynod o brysur.

Ychydig cyn y Nadolig daeth eu halbwm diweddara LLAREGGUB allan ar label MoPaChi. Hefyd, ar yr albwm cawn glywed cameos MC Skunkadelic, Gwyllt, Alys Williams, Osian Huw Williams, Mr Phormula a Lisa Jên. Falle bydd gwestai arbennig yn ymuno a’r naw nos Sadwrn hefyd. Pwy a wŷr?

 

Un peth arall..: Sengl ddwbl Adwaith

HEDDIW, yn swyddogol mae sengl ddwbl Adwaith allan ar label Libertino, sef ‘Fel i fod / Newid’.

Daeth y cyhoeddiad gan PYST wythnos diwetha’, a dywed y datganiad bod ‘Fel i Fod’ yn creu “cysylltiad emosiynol uniongyrchol â'r gwrandäwr” a bod y gân yn un gignoeth am ansicrwydd ac ofnau bywyd ar drothwy cyfnod newydd.

Dywedodd Hollie Singer, prif ganwr y band “Ysgrifennais 'Fel i Fod' ar adeg yn fy mywyd lle roedd llawer o bethau yn newid, roedd popeth yn newydd ac yn ofnus i mi. Mae'r gân yn ymwneud ag ofn. Pryder o fod yn sownd. Ofn o fod yn gyfforddus yn rhywle, dwi ddim yn meddwl fy mod yn perthyn. Mae'n ymwneud â sylweddoli y byddwch yn iawn hyd yn oed os nad ydych chi'n teimlo'n iawn drwy'r amser”.

Ac, mae Adwaith yw un o’r bandiau fydd yn chwarae nos fory, yng Ngwobrau’r Selar. Welwn ni chi yno!