Search site


Casgliad Cae Gwyn yn dathlu deg mlwyddiant

23/01/2018 22:05

Mae label Recordiau Cae Gwyn, sef y label Cymreig amgen o Ddyffryn Conwy sy’n cael ei redeg gan y cerddor Dan Amor yn dathlu eu pen-blwydd yn ddeg oed eleni.

I ddathlu, ac i gyd-fynd â Dydd Miwsig Cymru, mae’r label yn cyhoeddi ‘Casgliad Cae Gwyn’, sef albwm CD aml gyfrannog.  Ac nid dyna’r newyddion mwyaf, maent yn rhyddhau’r casgliad yn rhad ac am ddim.

Dywedant y datganiad gan y label bod:

“Cerddoriaeth bop-gofod, seicedelig a cherddoriaeth gwerin amgen i ensembles gitâr clasurol a grunge” ar gael ar yr albwm.

“Mae’r casgliad swynol hwn o gerddoriaeth yn adlewyrchu’r gorau o gerddoriaeth arbrofol a melodig Cae Gwyn.”

“Er bod yr albwm yn edrych yn ôl i raddau helaeth - mae’n cynnwys uchafbwyntiau’r repertoire ers sefydlu’r label yn 2008 - mae yna gwpl o draciau newydd hefyd.  Cafodd y trac ‘Cysawd yr Haul’ gan A(n)naearol, y band o Fôn sydd dal yn yr ysgol, ei gynnwys ar restr chwarae Pitchfork diweddar gan y Super Furry Animals. 

Teyrnged i Sen Segur

Daw'r trac ‘Gwreiddyn’ o’r albwm Films, sef albwm cyntaf Sen Segur ond ni chafodd ei ryddhau yn iawn oherwydd bod y band wedi penderfynu chwalu.”

Mae Dan yn sôn am y tristwch o golli Sen Segur, sef un o’r bandiau mwyaf cyffrous a fu gyda’r label, ond bod llawer o fandiau wedi codi o’u llwch megis Omaloma, Lastigband a Phalcons. Ond roedd yn teimlo bod yn rhaid cynnwys dau o draciau Sen Segur ar yr albwm hefyd.

Bydd Casgliad Cae Gwyn ar gael am ddim mewn gigs lle bydd artistiaid Cae Gwyn yn perfformio. Bydd hefyd ar gael am ddim gyda “phryniadau dethol” o wefan Recordiau Cae Gwyn

Fel rhan o ddathliad rhyddhau’r albwm ar ddydd Miwsig Cymru, bydd Omaloma’n gwneud gig arbennig ar gyfer disgyblion, athrawon, a rhieni staff Ysgol Gynradd Bro Gwydir, Llanrwst ar 9 Chwefror. Mae George Amor, prif-leisydd a chwaraewr allweddellau Omaloma, yn gweithio yn yr ysgol o ddydd i ddydd fel cynorthwyydd.

Dyma Sen Segur yn perfformio 'Gwreiddyn' ar Ochr 1 yn 2014: