Search site


Pump i’r Penwythnos Santes Dwynwen - 26/01/18

26/01/2018 11:21

Gig: Yr Eira, Fleur De Lys a Y Cledrau – Cartio Môn

Chydig o bethe’ ‘mlaen y penwythnos yma fydd falle o ddiddordeb i bobl o bob oed!

Heno, 26 Ionawr, mae’r ŵyl werinol, Gŵyl Gwion Bach, yn cychwyn yn Llanfair Caereinion efo deuawd Ryland Teifi a Stomp gydag Anni Llyn. Bydd yr ŵyl yn parhau ddydd Sadwrn efo Bwncath yn chwarae’n y Llew Du rhwng 18:00 a 19:00, yn ogystal â Patrobas a Gwilym Bowen Rhys yn chwarae y Llew Coch yn syth wedyn. Mwy o fanylion ar gael y dudalen Facebook.

Bydd rhaid dewis a dethol rhwng dau gig gwych nos Sadwrn 27 Ionawr, gan bod Y Selar, Bocsŵn ac Urdd Gobaith Cymru’n cynnal gig yng Nghartio Môn efo’r Eira, Fleur De Lys, Y Cledrau a mwy – drysau’n agor 19:00.

Ac yna ym Mangor, bydd Crys – y band roc trwm o’r 70au - yn gwneud comeback ym Mhontio gyda Maffia Mr Huws a DJ Rhys Mwyn yr un noson.

 

Cân: Creadur - Alffa

Mae Alffa yn rhyddhau eu sengl newydd ‘Creadur’ ar label Rasal heddiw, 26 Ionawr. Dyma eu cynnyrch cyntaf ers yr EP a ryddhawyd yn annibynnol ganddynt yn 2016.  Rhoddwyd fideo i’r gân ar y we wythnos diwethaf hefyd gan Ochr 1 a HANSH.

Cyfansoddwyd ‘Creadur’ yn fuan ar ôl i Alffa gipio teitl Brwydr y Bandiau 2017.  

“Roedd hi tua’r un adeg roedd ‘Queens of the Stone Age’ wedi cyhoeddi albwm ac roedd geiriau rhai o’r caneuon wedi ein hysbrydoli…ond mewn ffordd reit dywyll.   Ysgrifennwyd y gân am y teimlad o gerdded yn y nos heb wybod beth all fod tu ôl i chi, ac mewn rhyw ffordd bo’r diafol yn chwarae efo’ch meddwl chi, yn gwneud i chi feddwl pethau ac yn defnyddio’r tywyllwch fel pŵer.”

Mae’r sengl ar gael yn ddigidol gan Rasal, a bydd ar gael o’r mannau ffrydio a lawr lwytho arferol - Apton, iTunes, Apple Music, Spotify a Deezer. Ewch amdani.

 

Record: Hysbysebion – Maffia Mr Huws

Gan bod un o fandiau mwyaf dylanwadol Cymru yn y 1980au yn ail-ymddangos y penwythnos yma, mae’n esgus perffaith i wrando ar y record eiconig yma.

Nid yn unig y gerddoriaeth sydd wedi aros yn y cof, ond mae gwaith celf yr albwm hefyd yn arbennig. Roedd arian yn brin yn gyffredinol yma yng Nghymru yn yr 80au, o ganlyniad i doriadau’r llywodraeth. Ac oherwydd hynny, roedd yn rhaid i’r band fynd ar y dôl, gan ddibynnu ar werthu gofod hysbysebion ar glawr yr EP i dalu am y costau rhyddhau ym 1983. Jîniys! 

 

Artist: Miskin

Cyhoeddodd y grŵp o Ben Llŷn, Pyroclastig (heddwch eu llwch), ar eu gwefannau cymdeithasol wythnos diwethaf, bod y grŵp ar ei ffurf presennol yn dod i ben ar ôl dwy flynedd gyda’i gilydd.

Ond fel mae popeth da’n gorffen – mae rhywbeth gwell yn aml cychwyn, ac mae’r grŵp yn ail-ffurfio dan yr enw Miskin. Dywedodd Hawys Williams, un aelod o Miskin am y penderfyniad o orffen Pyroclatig a chychwyn Miskin:

“Mae’n sŵn ni wedi newid dipyn ers newid ‘chydig o aelodau’r band, felly roedd o’n syniad da newid enw a dechra o’r newydd.

Mae’n bechod rhoi’r gora i Pyroclastig oherwydd y gefnogaeth class da ni ‘di cael. Ond bydd amser cyffrous i ddod efo Miskin, gan ein bod wedi cael ein seinio gan label Côsh ac eisoes wedi bod yn stiwdio Drwm yn recordio.”

Ac rydan ni eisoes ‘di cael blas o beth sydd gan Miskin i’w gynnig ers nos Sul 21 Ionawr pan uwch lwythwyd cân o’r enw ‘Unwaith yn Ormod’ ar eu Soundcloud. Dyma hi:

 

Un peth arall..: Cyhoeddi rhestrau byr dau gategori diweddara’ Gwobrau’r Selar

Nos Fercher, cyhoeddwyd rhestrau byr dau gategori arall ar gyfer Gwobrau’r Selar ‘leni, sef y categorïau ‘Hyrwyddwyr Annibynnol Gorau’ a ‘Record Fer Orau’.

Y tri hyrwyddwr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yw Clwb Ifor Bach, Recordiau I KA CHING a Neuadd Ogwen.

Un o gategorïau agosaf y bleidlais eleni oedd ‘Record Fer Orau’, ac mae’r dair record sydd wedi dod i’r brig yn rai cyntaf i’r grwpiau dan sylw, sy’n adlewyrchu safon uchel ein bandiau newydd ar hyn o bryd. Y tri ddaeth i’r brig ydy Yr Oria gan Yr Oria, Pyroclastig gan Pyroclastig, a Cadno gan Cadno.

Mae pum categori ar ôl i’w cyhoeddi, a byddan nhw’n cael eu cyhoeddi rhwng hyn a phenwythnos Gwobrau’r Selar ar 16-17 Chwefror. Bydd yr enillwyr i gyd wrth gwrs yn cael eu cyhoeddi ar y brif noson, sef nos Sadwrn 17 Chwefror, yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth – tocynnau ar werth rŵan.