Dim ond oriau sydd i fynd nes bod blwch pleidleisio Gwobrau'r Selar yn cau!
Dyma'ch cyfle olaf felly i bleisleisio dros eich hoff artistiaid Cymraeg o 2010 - cliciwch yma i wneud hynny rŵan.
Fe fydd y bleidlais yn cau am hanner nos heno, a bydd y rhestrau byr yn cael ei cyhoeddi wythnos...
Hogia gwallgof ydy hogiau Creision Hud!
Maen nhw'n honi rŵan eu bod nhw'n bwriadu rhyddhau sengl newydd bob mis yn 2011. Ydyn wir, dyna'r bwriad yn ôl un o'r aelodau, a credwch neu beidio, mae'n ymddangos eu bod nhw o ddifrif hefyd.
Er eu bod nhw wedi dal ati i gigio'n weddol rheolaidd, mae'r 'Hud'...
Mae 3 band Cymraeg wedi eu rhestru ar y rhestr hir ar gyfer gwobrau cerddoriaeth newydd gorsaf radio Xfm.
Mae gwobr yr orsaf yn Llundain am albwm cyntaf gorau'r flwyddyn yn adnabyddus yn y byd cerddorol fel un i gadw golwg arno er mwyn darganfod 'y band mawr nesaf'. Ymysg enillwyr y...
Efallai y bydd rhai ohonoch chi wedi sylwi ar y clodfori sydd wedi bod ar Y Niwl yn ddiweddar. Mae albwm y band syrff o'r Gogledd wedi derbyn pob math o glod gan sylwebwyr yng Nghymru a'r tu hwn i Glawdd Offa.
Mae'n debyg mai'r anrhydedd mwyaf oedd cael eu dewis yn CD yr wythnos yn y Sunday...
Os ydach chi wedi darllen rhifyn mis Rhagfyr o'r Selar fe fyddwch chi'n gwybod ein bod ni wedi lansio pleidlais Gwobrau'r Selar 2010.
Uwaith eto eleni fe fydd yna 10 o gategoriau y gallwch chi bleidleisio amdanyn nhw yn cynnwys, band y flwyddyn, DJ gorau a cân y flwyddyn. Mae modd i chi...
Pen-blwydd hapus iawn i’r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig oedd yn dathlu eu pen-blwydd yn 10 oed yr wythnos diwethaf!
Mae’r sefydliad wedi bod yn gweithredu’n brysur dros y blynyddoedd i geisio cryfhau isadeiledd y sin gerddoriaeth yng Nghymru a helpu i hyrwyddo’r sin.
Fel rhan o’r dathliad fe...
Llongyfarchiadau mawr i drefnwyr Gŵyl Gwydir dros y penwythnos – roedd yr ŵyl yn lwyddiant ysgubol yn ôl y sôn!
Hon yw dim ond ail flwyddyn yr ŵyl sy’n cael ei chynnal yng nghlwb y Legion yn Llanrwst, ac mae’n amlwg ei bod wedi cydio yn nychymyg gig garwyr lleol...a llai lleol.
Yn ôl y...
Gŵyl fach arall ddifyr sydd ar y gweill yw Clyb Solstis yng Nghapel Curig.
Mae’r ŵyl yn cael ei threfnu gan John Lawrence, gynt o’r Gorkys Zygotic Mynci, ac erbyn hyn yn gynhyrchydd llwyddiannus yn y Gogledd.
Mae ‘na lwyth o artistiaid gwych yn perfformio yn yr ŵyl yn...
Llongyfarchiadau mawr iawn i Yr Angen ar gipio coron Brwydr y Bandiau C2 neithiwr.
Mae’r gystadleuaeth wedi bod yn rhedeg ar C2 ers rhai wythnosau bellach, gyda rowndiau rhanbarthol gyntaf, cyn i rownd derfynol neithiwr.
Tri band oedd yn y ffeinal, sef Yr Angen o Abertawe, The Unknown o...
Rydach chi, darllenwyr gwefan Y Selar wedi bod yn bwrw eich pleidlais dros fand mwyaf cyffrous Cymru ar hyn o bryd, yma ar y wefan. Cafwyd canlyniadau diddorol iawn hefyd!
Cyfartal oedd y bleidlais, gyda Y Bandana a Crwydro yn cael yr union un faint o bleidleisiau. Cafodd y ddau grŵp ifanc 36% o'r...