Mae'n siwr eich bod chi wedi darllen y cyfweliad Sen Segur yn rhifyn mis Mehefin o'r Selar, wel dyma gyfle i chi weld rhagor o luniau o'r photoshoot arbennig drefnodd Y Selar i'r band.
Mae deunydd ychwanegol o gyfweliad a photoshoot Creision Hud bellach i'w ffeindio fan hyn ar wefan Y Selar. Trît bach i chi am fod yn ddarllenwyr mor dda!
Deunydd ychwanegol o gyfweliad y Creision Hud nath ddim gwneud hi mewn i rifyn mis Mehefin o'r Selar.
Tro dwytha i’r Selar siarad efo chi, roeddych chi’n ystyried newid eich enw. Ydi hynny wedi pasio rwan?
Ifan: Do. Be’ dwi’n meddwl oedd o: Oeddan ni ’di bod yn ddistaw mor hir, oeddan...
Mae rhifyn mis Mehefin o'r Selar ar fin cael ei gwblhau.
Fe fydd y rhifyn newydd allan ar 30 Mai, sef dydd Llun cyntaf Eisteddfod yr Urdd wrth gwrs.
Yn y rhifyn newydd mae cyfweliad gyda dau o fandiau ifanc mwyaf cyffrous y sin, sef Sen Segur a Creision Hud. Bydd cyfle i chi hefyd weld lluniau...
Mae'r Selar yn falch iawn o gyhoeddi ein bod yn trefnu taith newydd sbon 'Slot Selar', gan ddechrau ar 23 Mehefin.
Bydd tri grŵp ifanc a chyffrous yn perfformio ar y daith sef Creision Hud, Sen Segur a Trwbador.
Fe fydd y daith yn dechrau yn Dempseys, Caerdydd ar nos Iau 23 Mehefin ac yn...
Eitem yn nodi enillwyr 'Gwobrau'r Selar 2010' ar Bandit yn Gigio neithiwr .. cyfle i wylio eto ar clic
https://www.s4c.co.uk/clic/e_level2.shtml?series_id=496367599
Mae rhifyn cyntaf y flwyddyn o gylchgrawn Gwobrau’r Selar wedi’i gyhoeddi, sydd hefyd yn golygu cyhoeddi enillwyr gwobrau blynyddol y cylchgrawn hefyd.
Roedd y bleidlais ar gyfer y gwobrau eleni wedi bod yn agored i’r cyhoedd ar wefan Y Selar www.y-selar.com rhwng diwedd mis Rhagfyr a dechrau mis...
Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym ni wedi gweld nifer o fandiau'r SRG yn arbrofi gyda chyfansoddi yn y Saesneg, gyda Yr Ods, Race Horses a Masters In France yn enghreifftiau amlwg o hyn. Mae rhai yn gwneud albyms Saesneg, tra bod eraill yn creu caneuon dwyieithog. Mae...
Cyhoeddi rhestrau byr Gwobrau’r Selar 2010
Mae’r cylchgrawn cerddoriaeth, Y Selar, wedi cyhoeddi’r rhestrau byr ar gyfer eu gwobrau blynyddol.
Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae’r gwobrau’n cynnwys 10 categori ac mae’r bleidlais wedi bod yn agored i’r cyhoedd ar wefan y cylchgrawn.
Ymysg y...
Mae trefnwyr Gŵyl y Dyn Gwyrdd wedi cyhoeddi bod tocynnau'r ŵyl eleni'n mynd ar werth ddydd Mawrth nesaf, sef 15 Chwefror.
Mae'r ŵyl, a sefydlwyd yn 2003, wedi tyfu a thyfu dros y blynyddoedd diwethaf ac erbyn hyn wedi'i sefydlu fel un o wyliau mwyaf poblogaidd Cymru - os nad y mwyaf...