Mae'n falch iawn gennym gyhoeddi fod rhifyn nesaf Y Selar i'w gyhoeddi erbyn mis Rhagfyr.
Bydd modd i chi godi eich copi rhad ac am ddim o'r mannau arferol wedi hynny felly!
Mae 'na lwyth o gyfweliadau yn y rhifyn yma yn ogystal â llwyth o adolygiadau CDs, ac erthyglau amrywiol eraill...
Newydd glywed newyddion bendigedig gan y grŵp Violas am ddyddiadu rhyddhau eu EP newydd.
Mae'r EP 'Hwylio//Sailing' sef EP cyntaf y band, yn cael ei ryddhau mewn gig arbennig yn Buffalo Bar, Caerdydd ar nos Wener 18 Tachwedd!
Bydd y gig yn dechrau am 7pm ac yn gorffen am 10pm, felly gig bach...
Mae'n braf iawn cael cyhoeddi bod un o gyn fandiau 'Dau i'w Dilyn' yn rhyddhau eu CD cyntaf heddiw.
Bydd 'Kim y Syniad', EP newydd Candelas ar gael i'w brynu o siopau Spillers yng Nghaerdydd, Cob Bangor ac Awen Meirion yn y Bala o heddiw ymlaen.
Roedd Candelas yn un o fandiau Dau i'w Dilyn...
Y Selar / Prifysgol Bangor
Ysgoloriaethau MA - Mynediad i Radd Meistr
Mae Prifysgol Bangor, ar y cyd â’r Selar, yn cynnig ysgoloriaeth i fyfyrwyr sydd yn dymuno gwneud Gradd Meistr ym maes y Diwydiannau Creadigol, trwy'r cynllun Mynediad i Radd Meistr. Mae'r cynllun hwn yn seiliedig...
Llongyfarchiadau mawr i'r Niwl, sydd bellach yn darparu'r gerddoriaeth into ar gyfer y rhaglen Football Focus ar brynhawniau Sadwrn.
Fe fydd y gân Undegpedwar gan y grŵp yn cael ei hatseinio i glustiau miliynau o wylwyr y rhaglen boblogaidd ar BBC1 trwy gydol y tymor.
Mae'r...
Mae rhifyn Awst o'r Selar allan nawr!
Mae hwn yn rifyn bach amrywiol iawn sy'n cynnwys cyfweliad gyda'r Violas sgwrs efo Sibrydion am eu albwm newydd; a chyfweliad efo Rhys Aneurin am ei waith celf cerddorol.
Yn ogystal â hyn mae nifer o'ch hoff eitemau rheolaidd gan gynnwys Dau i'w Dilyn,...
Da di'r Creision Hud ynde! Isod fe welwch chi eu fideo newydd sbon danlli nhw ar gyfer y gân 'Indigo' - hit yr haf efallai?
Mae'r fideo yma'n dilyn dau arall gan y grŵp grwfi o Gaernarfon, sef 'Bedd' a 'She Said'. Chwara teg i'r hogia - daliwch ati Hud!
Bydd yna ddau 'Gig Gwydir' yn cael eu cynnal ar ail benwythnos mis Awst eleni.
Bydd darllenwyr Y Selar a selogion y sin yn gyfarwydd â'r ŵyl flynyddol ' Gwyl Gwydir' sydd wedi ei chynnal ym mis Medi llynedd a'r flwyddyn flaenorol. Mae'r ŵyl yn cael ei threfnu unwaith eto eleni ar ail...
Mae EP newydd Jen Jeniro, Swimming Limbs, allan i'w lawr lwytho ers ddoe. Fe fydd fersiwn finyl, nifer cyfyngedig yn cael ei ryddhau hefyd wythnos i ddydd Sadwrn yng Ngŵyl Gardd Goll.
Mae stori lawnach ar Golwg360
Gallwch hefyd wrando ar yr EP ar wefan y label I KA CHING
Mae un peth yn sicr, tydi’r Creision Hud ddim yn grŵp sy’n hoffi bod yn segur!
Dim ond diwrnod ar ôl iddynt orffen headlinio taith Slot Selar trwy Gymru, mae’r grŵp wedi cyhoeddi bod eu sengl ddiweddaraf ar gael i’w lawr lwytho rŵan.
Dim ond dydd Iau diwethaf y rhyddhaodd Creision Hud eu seithfed...