Wel, mae taith gyntaf Slot Selar wedi dod i ben ar ôl 5 o gigs gwych ledled Cymru.
Diolch i bawb fu yn un neu fwy o’r gigs, ac i’r bandiau am roi cystal sioe ym mhob lleoliad.
Roedd yn wych cael cyfle i lwyfannu tri grŵp ifanc gwirioneddol addawol ar y daith gyntaf, ac mae’r daith hefyd wedi...
Mae’n bosib y bydd y nofiwr Olympaidd Duncan Goodhew yn ymweld â gig olaf Taith Slot Selar yn Llanrwst nos Sadwrn nesaf.
Rydan ni wedi penderfynu gwahodd Goodhew, sy’n ffigwr adnabyddus yn rhannol oherwydd ei ben moel, i noson olaf y daith i ddathlu'r gân deyrnged mae Sen Segur wedi cyfansoddi...
Fe gafwyd dechrau da i gymalau cyntaf Taith Slot Selar dros y penwythnos ac mae’n argoeli’n dda ar gyfer y ddwy gig olaf penwythnos nesaf.
Dechreuodd y daith yn Depseys, Caerdydd nos Iau ac mae sawl person wedi cysylltu i ddweud cymaint y gwnaethon nhw fwyhau’r gig agoriadol.
Y ffilm ‘Capel...
Bydd yna fonws fach flasus i’r rhai sy’n mynd i gig Slot Selar Dempseys, Caerdydd nos Iau yma wrth i ffilm fer newydd gael ei dangosiad cyhoeddus cyntaf.
Mae’r ffilm hanner awr o hyd yn ddarn o waith gan Eryl Jones, sef prif ganwr y grŵp seicadelic Jen Jeniro.
Wedi ei chynhyrchu fel rhan o gwrs...
Newyddion da o lawenydd mawr - byddwn ni'n argraffu dau grys T nifer cyfyngedig i gydfynd â thaith Slot Selar!
Bydd modd i bobol sy’n mynd i gigs y daith brynu’r crysau sydd wedi eu hysbrydoli gan ganeuon diweddar, a mwyaf poblogaidd dau o’r bandiau sy'n perfformio. Ond, bydd rhaid i chi...
Newyddion da o lawenydd mawr! Mae Y Cyfoes wedi eu hychwanegu i linep cymal Caerfyrddin o daith Slor Selar.
Y grŵp ifanc lleol fydd yn agor y gig yng nghanolfan wych newydd The Parrot ar Heol Y Brenin yn y dref, ac rydan ni'n edrych ymlaen yn fawr i'w croesawu nhw i deulu Slot Selar.
Bydd...
Am resymau y tu hwnt i'n rheolaeth, rydym wedi gorfod newid lleoliad cymal Bangor o daith gyntaf 'Slot Selar'.
Fe fydd y gig rŵan yn digwydd yng nghlwb Base, sydd ar stryd fawr Bangor. Mae'r clwb yn leoliad gwych ar gyfer gigs, ac yn ddiweddar iawn fe gafwyd gig arbennig o dda yno gyda'r Race...
Poster y daith i chi gael cip - rhain yn cael eu dosbarthu ar hyn o bryd. Unrhyw un sy'n awyddus i helpu hyrwyddo'r daith, pob croeso i chi gysylltu ac fe wnawn ni yrru cwpl o bosteri i chi eu rhoi fyny - yselar@live.co.uk