Mae deunydd ychwanegol o gyfweliad a photoshoot Creision Hud bellach i'w ffeindio fan hyn ar wefan Y Selar. Trît bach i chi am fod yn ddarllenwyr mor dda!
Mae rhifyn mis Mehefin o'r Selar ar fin cael ei gwblhau.
Fe fydd y rhifyn newydd allan ar 30 Mai, sef dydd Llun cyntaf Eisteddfod yr Urdd wrth gwrs.
Yn y rhifyn newydd mae cyfweliad gyda dau o fandiau ifanc mwyaf cyffrous y sin, sef Sen Segur a Creision Hud. Bydd cyfle i chi hefyd weld lluniau...
Mae'r Selar yn falch iawn o gyhoeddi ein bod yn trefnu taith newydd sbon 'Slot Selar', gan ddechrau ar 23 Mehefin.
Bydd tri grŵp ifanc a chyffrous yn perfformio ar y daith sef Creision Hud, Sen Segur a Trwbador.
Fe fydd y daith yn dechrau yn Dempseys, Caerdydd ar nos Iau 23 Mehefin ac yn...
Eitem yn nodi enillwyr 'Gwobrau'r Selar 2010' ar Bandit yn Gigio neithiwr .. cyfle i wylio eto ar clic
https://www.s4c.co.uk/clic/e_level2.shtml?series_id=496367599
Mae rhifyn cyntaf y flwyddyn o gylchgrawn Gwobrau’r Selar wedi’i gyhoeddi, sydd hefyd yn golygu cyhoeddi enillwyr gwobrau blynyddol y cylchgrawn hefyd.
Roedd y bleidlais ar gyfer y gwobrau eleni wedi bod yn agored i’r cyhoedd ar wefan Y Selar www.y-selar.com rhwng diwedd mis Rhagfyr a dechrau mis...