Search site


Sesiwn Radio Cymru Alffa

04/03/2018 21:03

Un band ifanc mae'r Selar wedi bod yn cadw golwg agos arnyn nhw ers tua dwy flynedd bellach ydy'r ddeuawd blŵs o Lanrug, Alffa. 

Roedd felly'n dda clywed sesiwn Radio Cymru newydd Alffa yn cael ei darlledu ar raglen Lisa Gwilym nos Fercher diwethaf, 28 Chwefror. 

Mae’r sesiwn yn ran o wobr Alffa wedi iddyn nhw gipio teitl Brwydr y Bandiau yn ‘Steddfod Genedlaethol Môn 2017.

Recordiwyd y sesiwn gychwyn mis Ionawr a dywedodd Alffa eu bod yn “reit gyffrous i wneud y sesiwn, gan bo’ ni wastad wedi gwrando ar sesiynau Radio Cymru bandiau fel Yr Eira ac Yr Ayes”.

Y caneuon a recordiwyd yn y sesiwn ydy ‘Tomos Rhys’, ’13.11.15’, a ‘Mwgwd’. Mae’r dair cân wedi eu recordio yn y gorffennol, gan ymddangos ar EP a ryddhawyd yn annibynnol gan y ddeuawd rhyw ddwy flynedd yn ôl. Er hynny, dywed Dion, canwr Alffa “wrth i ni ddatblygu fel band mae’r caneuon wedi newid, felly roedd o’n gam reit naturiol i ail-recordio y caneuon yma.

“Mae Mwgwd wedi ei recordio yn acwstig ond ‘da ni’n teimlo bod hyn yn dda gan bod y fersiwn electrig wedi cael ei ryddhau ar albwm sesiynau Sain. ‘Da ni fel band wastad wedi mwynhau newid ein caneuon ar gyfer setiau acwstig!"

Cyfweliad yn Y Selar

Bydd y rhai ohonoch chi sydd eisoes wedi cael gafael ar gopi o rifyn diweddaraf Y Selar yn gwybod bod cyfweliad gyda'r ddeuawd ifanc yn y rhifyn hwnnw. 

Mae pethau'n amlwg yn dechrau symud i Alffa a cadarnhaoedd Dion hefyd bod mwy o gynnyrch ar y ffordd ganddynt yn ystod 2018.

“’Da ni’n bendant yn bwriadu rhyddhau lot mwy yn 2018! Bwriad o ysgrifennu a rhyddhau EP neu albwm. ‘Da ni’n teimlo mai dyma’r cam nesaf rŵan er mwyn cyrraedd lefel yn uwch, felly awê!”

Mae modd gwrando ar y sesiwn Radio Cymru ar safle Soundcloud Alffa nawr....a dyma hi isod i chi!