Search site


Rhestr Fer Fideo Gorau 2017

07/02/2018 21:47

Y ddwy restr fer Gwobrau'r Selar diweddaraf i'w cyhoeddi ydy rheiny ar gyfer categoriau 'Cyflwynydd Gorau' a 'Fideo Gorau'. 

Tri hoff gyflwynydd pleidleiswyr Gwobrau'r Selar eleni ydy Tudur Owen, Gareth yr Epa a Huw Stephens - llongyfarchiadau mawr i'r tri. 

Mae categori 'Fideo Gorau' yn un difyr eleni gan bod dau fideo sydd wedi eu cynhyrchu'n annibynnol wedi cyrraedd y rhestr, sef 'Di arfar' gan The Routines a 'Drwy dy Lygid di' gan Yws Gwynedd. Mae'r trydydd fideo sydd ar y rhestr yn un digon trawiadol hefyd, sef 'Bang Bang' gan Cadno a gynhyrchwyd ar gyfer Ochr 1 gan Hanna Jarman. 

Owain Llŷr a Mark Back o gwmni gweledigaeth.com sy'n gyfrifol am fideo The Routines.

Ems o grŵp Yws Gwynedd sy'n gyfrifol am waith ffilio fideo 'Drwy Dy Lygid Di' gyda'r grŵp i gyd yn cyfrannu at y gwaith cyfarwyddo, a Gruff Lovgreen yn gwneud y golygu.

Dyma'r tri fideo sydd ar y rhestr fer i'ch hatgoffa chi...

 

'Di arfar' - The Routines

 

'Drwy dy Lygid di' - Yws Gwynedd

 

'Bang Bang' - Cadno