Search site


Pump i’r penwythnos 09/02/18

09/02/2018 15:56

!DYDD MIWSIG CYMRU!

Gig: Twrw: Papur Wal, Y Cledrau, Eadyth, The Gentle Good, Mellt, Los Blancos, Meic Stevens, DJ Garmon – Y Castle Emporium, Stryd y Fuwch Goch, Caerdydd

Yn naturiol, mae rhestr hir o gigs wedi’i trefnu gan drefnwyr ar gyfer diwrnod sy’n dechrau sefydlu ei hun yn y calendr fel un o bwys, Dydd Miwsig Cymru. Diwrnod cenedlaethol sy’n hyrwyddo cerddoriaeth Cymraeg ydy heddiw (9 Chwefror), felly dyma chi ‘chydig o’r gigs niferus sy’n cael eu cynnal

-          Twrw: Papur Wal, Y Cledrau, Eadyth, The Gentle Good, Mellt, Los Blancos, Meic Stevens, DJ GarmonY Castle Emporium, ar Stryd Wombany  12:30

-          Calfari, Delta Radio Band, Mei Emrys, The Cazadors – Undegun, Wrecsam 19:00

-          Chroma, Adwaith, Serol Serol – Galeri, Caernarfon 18:00

-          Ffug, CaStLeS, The Routines – Rascals, Bangor 19:30

-          Twrw: Alys Williams, Iwan Huws – St John The Evangelist Church, Canton 19:30

-          Y Cledrau, Cadi Edwards – Llew Coch, Llanrwst (Trydydd Gig y Cledrau heddiw – gan gynnwys un mewn Ysgol!) 20:00

-          Gwilym Bowen Rhys – Whitehall, Pwllheli

Does dim rhaid i chi deithio’n bell i ganfod gig heddiw.

Artist: Papur Wal

Da clywed gan Papur Wal bod mwy o gynnyrch ar y ffordd ganddynt, ac eu bod wedi bod yn treulio’r penwythnos yn nhŷ y band Mellt yn gweithio ar eu stwff.

Yn ôl Ianto, aelod o’r grŵp, maent wedi bod yn brysur yn recordio cân hefo artist Cymraeg “top secret” sydd am “roi ‘chydig o hudoliaeth” ar gân newydd ganddynt nhw, sef ‘Siegfried Sassoon’ fydd allan ar label Recordiau Libertino. Cân maent yn arbrofi â ar y funud yw ‘Siegfried Sasson’, fydd allan fel fersiwn efo’r gwestai arbennig mewn tua mis.

Maent hefyd am fynd i recordio EP Cymraeg hefo Chris Jenkins (sydd wedi gweithio gyda Los Blancos, Gruff Rhys a H. Hawkline yn y gorffennol) ac mi fyddan nhw’n mynd i’r stiwdio i’w recordio hefyd mewn rhyw mis.

Bydd y stwff ar yr EP yn gyfuniad o’r caneuon fydd Papur Wal wedi ei rhyddhau cyn dyddiad rhyddhau’r EP. O ran y sŵn, maent yn gobeithio cynnwys elfen popi ‘Anghofia dy Hun (ar fora Llun)’ a “synau hyllach, mwy melancholic Bran Damage”.

Soniodd Ianto y bydd yr EP yn “hoelio’n sŵn ni, efo dipyn o amrywiaeth yn y stwff ‘da ni ‘di bod yn rhyddhau, gan gynnwys Siegfried Sassoon, sydd fel cân ‘dros ben’ geno ni – un o’r caneuon cyntaf i ni ‘sgwennu.” Dywed bod sŵn y gân yma’n debyg i synau bandiau megis Brian Jonestown Massacre, Terror Twilight Pavement a falle Y Niwl.

Bydd Papur Wal yn chware’n y Castle Emporium p’nawn ‘ma fel rhan o lein-yp penigamp TWRW AM DDIM(!) fel dathliad o Ddydd Miwsig Cymru. Maent ganddynt hefyd ddau gig arall ar y gweill, felly cadwch eich clustiau’n ‘gored am fwy o fanylion. Maent hefyd yn chwilio am fwy o ddyddiadau i’w hychwanegu – felly cysylltwch os yn chwilio am fand ar gyfer gig!

Dyma ‘Anghofia Dy Hun (ar fora Llun)':

 

Cân: Adwaith – Lipstick Coch

Band gwych arall sydd wedi cyhoeddi newyddion cyffrous ddoe, yw Adwaith. A’r newyddion hwnnw yw bod sengl ddwbl-A newydd ar y ffordd ganddynt ar label Libertino.

Mewn cyhoeddiad gan Pyst, cyhoeddwyd bod y triawd “ôl-pync” yn rhyddhau eu sengl dwbl-A newydd sef 'Fel i Fod/Newid' ar 16 Chwefror. Dywed bod ‘Fel i Fod’ yn creu “cysylltiad emosiynol uniongyrchol â'r gwrandäwr” a bod y gân yn un gignoeth am ansicrwydd ac ofnau bywyd ar drothwy cyfnod newydd.

Edrychwn ymlaen i gael clywed sŵn newydd y band - caiff ‘Fel i Fod’ ei ddisgrifio fel tiwn dyner ond llawn hyder wrth i’r gân adeiladu gan ddangos aeddfedrwydd cerddorol sy’n cael ei gario ymlaen i gordiau ôl-pyncaidd pwerus ‘Newid’. Mae ‘Newid’ yn “anthem i’r genhedlaeth newydd” sef cenhedlaeth sydd wedi’i thwyllo a’i hanwybyddu gan oes ddiflas, hunanol Brexit a Trump.

Cafodd y sengl ddwbl ei chwarae am y tro cyntaf ar sioe frecwast Huw Stephens bore ‘ma, dyma ‘Lipstick Coch’ gan y band wrth i ni ddisgwyl yn amyneddgar nes y 16 Chwefror pan ddaw’r sengl ddwbl-A allan!

 

Record: Y Gwyfyn - The Gentle Good

Mae The Gentle Good yn rhyddhau ei EP newydd, Y Gwyfyn, heddiw ar Recordiau Bubblewrap.

Mae’r record yn cynnwys traciau newydd, a deunydd sydd heb gael ei ryddhau o’r blaen, yn ogystal â thrac o Ruins/Adfeilion, sef albwm buddugol y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2017.

Yn ôl datganiad The Gentle Good, dywed bod y record fer yn dilyn trywydd tebyg i’r albwm, gyda byd natur, hunaniaeth ddiwylliannol a sylwebaeth gymdeithasol yn ymddangos fel themâu amlwg ar y casgliad.

“Mae’r trac agoriadol yn dychmygu taith gwyfyn ar noswaith dwym o haf, tra bod ‘Briwsion yn beirniadu anghyfiawnder cymdeithasol yn y byd modern. Ceir hefyd cyfieithiad Gymraeg o’r gan boblogaidd ‘The Fisherman’, a fersiwn newydd sbon o’r alaw draddodiadol Cariad Cyntaf’. Mae’r record fer yn cau gyda ‘Golwg y Gwdihŵ’, trefniant cerddorol sy’n cynrychioli golygfa o goedwig gyda’r nos recordiwyd yn wreiddiol fel rhan o brosiect ar gyfer Amgueddfa Cymru”.

Ar y record fer, cawn weld perfformiadau arbennig gan “rai o gerddorion gorau Cymru” gan gynnwys y drymiwr Jack EgglestoneCallum Duggan ar y bas dwbl a llais hyfryd Georgia Ruth. Ceir hefyd drefniannau llinynnol arbennig Seb Goldfinch wedi eu perfformio gan bedwarawd llinynnol y Mavron Quartet.

Mae modd prynu’r record ar feinyl (gyda lawr lwythiad digidol) neu CD heddiw!

Rydan ni’n tueddu i osgoi postio caneuon di-Gymraeg ar Pump i’r Penwythnos, ond fe wnawn ni eithriad gyda’r hyfryd ‘The Fisherman’:

 

Un Peth Arall…: Recordiau Côsh yn rhyddhau dwy sengl

Da gweld bandiau ifanc yn rhyddhau cerddoriaeth ffresh ar ddydd Miwsig Cymru.

Mae sengl swyddogol gyntaf Lewys (Lewys Meredydd) sef 'Yn Fy Mhen' yn cael ei ryddhau’n swyddogol gan label Recordiau Côsh heddiw, a hefyd ail sengl Gwilym sef ‘Cwîn’.

Mewn datganiad gan Pyst am y cyhoeddiad, dywedodd Côsh am Lewys: 

"Mae Lewys (Lewys Meredydd) wedi bod yn arbrofi efo’i sŵn ers cwpwl o flynyddoedd drwy ddefnyddio platfform Soundcloud i ryddhau demos a syniadau. Yn ystod y cyfnod hwnnw mae Lewys wedi arbrofi efo cerddoriaeth electroneg ac indie ac hyd yn oed wedi cynhyrchu cân sy’n perthyn yn agos i’r genre Math Rock.

“Rydym wedi cyffroi fel label i gael bod yn rhan o ddatblygiad Lewys ac yn edrych ymlaen iddo gynnig rywbeth newydd i’r byd cerddorol." 

'Cwîn' gan Gwilym fydd ail sengl y band o Fôn, sydd wrthi ar hyn o bryd yn gweithio ar eu halbwm cyntaf fydd yn cael ei ryddhau gan Côsh erbyn yr haf.

Cafodd ‘Llechan Lân’, sef sengl cyntaf Gwilym ei ryddhau’n swyddogol ar Recordiau Côsh fis Rhagfyr 2017. Meddai datganiad Pyst am y gân:

“Roedd y gân 'Llechan Lân' yn gynnig cyntaf aeddfed a ddangosodd botensial y band.  Mae 'Cwîn' yn gân llawer mwy chwareus ac yn rhan gyffrous o’u set byw gwych â welodd Gwilym yn dod yn ail yn Brwydr y Bandiau Radio Cymru a Maes B yn 2017.”

Label Ywain Gwynedd (Yws Gwynedd, Frizbee) yw Recordiau Côsh, sy’n canolbwyntio ar ddatblygu talent artistiaid ifanc o dan eu gofal, maent hefyd ar y funud yn gweithio â’r band Miskin (Pyroclastig gynt) o Ben Llŷn a Chaernarfon.

Dyma un o ganeuon Lewys o’i safle Soundcloud, ‘Croesi’: