Search site


Pump i’r penwythnos 02/02/18

02/02/2018 16:44

Gig: Tri Hwr Doeth (hip hop byw) yn Rascals, Bangor

Gan bod Dydd Miwsig Cymru’n agosáu, braidd yn brin yw’r gigs y penwythnos yma o ganlyniad. Ond mae cyfle i weld Pasta Hull yn gwneud setiau hip hop byw yn Rascals nos Wener 2 Chwefror, ac am y tro cyntaf, cyfle i glywed Tri Hwr Doeth yn fyw. Prosiect cysyniadol Pasta Hull ydy Tri Hwr Doeth, a bydd Piwb yn cefnogi mewn noson a drefnir gan Noddfa.

Yng nghaffi Croesor, Croesor nos Sadwrn bydd Simon Chandler yn lansio’i albwm ‘O Hiraeth i Saudade’, sef cerddoriaeth acwstig â naws Brasil. Bydd Jamie Bevan yn cefnogi.

Nos Lun, 5 Chwefror yng Ngaleri Caernarfon bydd noson lansio ‘Rhannu’r Hen Gyfrinachau’. Mae Sain, Cwmni Da a Galeri yn cyd-weithio i drefnu’r noson arbennig a fydd yn “ddathliad o gyfraniad merched Cymru i fyd canu pop a gwerin y 1960au a’r 70au.” Bydd y noson yng nghwmni nifer o’r merched sydd ar y casgliad newydd a ryddhawyd gan Sain cyn y Nadolig - noson o sgwrsio, atgofion, cerddoriaeth, lluniau, clipiau archif, dillad y cyfnod a mwy.

Llawer mwy i ddod penwythnos nesa’!

Artist: Serol Serol

Cyhoeddwyd manylion am albwm cyntaf Serol Serol yr wythnos hon gan PYST, yn ogystal â manylion eu sengl ddigidol ‘K’TA’ fydd allan wythnos nesa’, ar 7 Chwefror ar label I KA CHING.

Mae Serol Serol yn un o’r bandiau mwyaf cyffrous i ddod i’r amlwg dros y flwyddyn ddiwetha’, ac maen nhw’n un o’r bandiau sydd wedi cyrraedd rhestr fer categori Band neu Artist Newydd Gorau Gwobrau’r Selar eleni.

Dwy gyfnither o Ddyffryn Conwy ydy Serol Serol - Mali Siôn a Leusa Rhys - sydd wedi “cyrraedd y ffurfafen” ar ôl rhyddhau y senglau ‘Cadwyni’ ac yna ‘Aelwyd’, yn ystod 2017. Mae’r ddwy hefyd wedi bod cydweithio’n agos â George Amor (Omaloma, Sen Segur) a Llŷr Pari (Palenco, Omaloma, Jen Jeniro) ers cychwyn. Rydan ni’n edrych ymlaen yn fawr i glywed eu halbwm cyntaf, sy’n dwyn yr un enw â’r band a sy’n cael ei ryddhau ar 23 Mawrth eleni.

Ond cyn hynny, bydd y sengl newydd ar gael i’w lawr lwytho’n ddigidol, a hynny am ddim i unrhyw un sy’n mynd i gigs Serol Serol yng Ngaleri, Caernarfon ar 9 Chwefror a Gwobrau Selar yn Aberystwyth ar 17 Chwefror.

Dyma ‘Aelwyd’, fydd hefyd ar yr albwm:

Cân: Dienw – Gwasanaethau (Demo Chwyrligwgan)

Yn ddiweddar cafodd Y Selar sgwrs gyda Twm ac Osian o’r band Dienw. Sefydlwyd y band newydd fis Hydref, fel rhan o Marathon Roc, sef y gweithdy/cwrs tri niwrnod oedd yn cael ei gynnal gan y Galeri yng Nghaernarfon.

Cafodd bandiau a cherddorion ifanc gyfle i weithio gyda rhai o enwau mwyaf Cymru fel tiwtoriaid, sef Osian Williams (Candelas), Branwen Williams (Cowbois Rhos Botwnnog, Siddi), Ywain Gwynedd (Yws Gwynedd, Frizbee) a Gai Toms (Brython Shag, Anweledig). Dau o Ddyffryn Peris sydd tu ôl i Dienw, sef Twm Herd (gitâr ag llais) ac Osian Land (dryms).

Yn ddiweddar, buon nhw yn Stiwdio Drwm, Llanllyfni yn recordio ac mae Dienw eisoes wedi llwytho dwy gân demo ar eu tudalen SoundCloud ers deufis sef ‘Gwasanaethau’ (demo Chwyrligwgan – enw gwreiddiol Dienw) a ‘Bwystfil Prydferth’ (Demo Chwyrligwgan eto)

Dyma flas o ‘Gwasanaethau’ i chi:

Record: Tri Hwr Doeth

Mae’n gyfnod cyffrous i’r band hip hop o Dre (Caernarfon), Pasta Hull. Rhwng cyrraedd dwy restr fer Gwobrau’r Selar, a chyhoeddi albwm ‘Achw Met’ yn yr hydref. Maen nhw hefyd ar fin rhyddhau prosiect newydd y band, Tri Hwr Doeth, ar ffurf copi caled. Fe gyhoeddon nhw glawr i’r prosiect echddoe ar eu cyfrif Twitter, gan dweud mai argraffu ydy’r cam nesaf. 

Mae Tri Hwr Doeth ar gael ar BandCamp Pasta Hull y band ers dydd Dolig.

Mae llawer wedi cymryd tuag at Pasta Hull ers iddynt gychwyn llynedd, a fe drowyd pen neu ddau pan gyhoeddon nhw gân am Bryn Fon nôl yn yr haf!

Cyhoeddon nhw’n ddiweddaf hefyd bod albwm arall i ddod allan ganddyn nhw fis nesaf, sef G/MURPH. Cofiwch bod modd clywed Tri Hwr Doeth am y tro cyntaf yn fyw heno (nos Wener) yn y Rascals, Bangor.

Dyma ‘Cacan Ffenast’:

 

Un Peth Arall..: Recoriau Neb yn rhyddhau podlediad

Chwilio am bodlediad newydd i’w ddilyn? Mae cyfres o bodlediadau gwahanol sy’n trafod miwsig, celf a ieuenctid wedi cychwyn gan Recordiau Neb sef ‘Dim Byd Gwell i Wneud’, a’r cyntaf yn y gyfres yw hanes y Peiriant TR-808 “#1 HANES Y TR-808”.

Mae’n bodlediad diddorol sy’n edrych nol ar y dylanwad y cafwyd y peiriant TR-808 ar fandiau hanesyddol, clybiau nos ac yn trafod y peiriant yn gyffredinol.

Un frawddeg wnaeth aros yn y cof oedd bod y peiriant yn “Metel du, hefo botymau coch, oren, melyn a gwyn, a mwy o nobs na dancefloor yn Oceana” mae’n werth gwrandawiad

https://www.recordiauneb.com/