Search site


Gwobrau'r Selar 2010

21/01/2011 15:21

 

Os ydach chi wedi darllen rhifyn mis Rhagfyr o'r Selar fe fyddwch chi'n gwybod ein bod ni wedi lansio pleidlais Gwobrau'r Selar 2010.

Uwaith eto eleni fe fydd yna 10 o gategoriau y gallwch chi bleidleisio amdanyn nhw yn cynnwys, band y flwyddyn, DJ gorau a cân y flwyddyn. Mae modd i chi bleidleisio yma ar wefan Y Selar - felly cystal i chi daro tra bo'r haearn yn boeth a gwneud rwan.

Mae'r dyddiad cau ar gyfer pleidlesiau ar 10 Chwefror, ac fe fyddwn ni'n cyhoeddi'r rhestrau byr yn fuan ar ôl hynny. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn rhifyn nesaf Y Selar sydd allan ddechrau mis Mawrth.