Search site


Gwobrau’r Selar: Pedair Gwobr i Yws

18/02/2018 08:44

 

Yws Gwynedd oedd prif enillydd Gwobrau’r Selar mewn noson wych arall i’r sin gerddoriaeth Gymraeg yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth neithiwr.

Cipiodd Yws bedair o wobrau ar y noson, sef Record Hir Orau am ei albwm, Anrheoli a ryddhawyd fis Ebrill; Fideo Gorau (‘Drwy Dy Lygid Di’); Cân Orau (‘Drwy Dy Lygid Di’)  a Band Gorau.

Mae Yws wedi cael tipyn o lwyddiant yn y Gwobrau yn y gorffennol, gan ennill categori Artist Unigol Gorau deirgwaith, ynghyd â nifer o wobrau eraill dros y dair blynedd ddiwethaf. Er hynny, bydd darllenwyr Y Selar yn gwybod ei fod wedi pwysleisio mai prosiect y band cyfan ydy’r albwm diweddaraf ac roedd yr aelodau i gyd yn Aberystwyth i ymuno yn y dathlu.

Mae’r gwobrau’r coroni blwyddyn ardderchog i Yws Gwynedd, a oedd yn hed-leinio Gig y Pafiliwn yn Eisteddfod Môn, cyn llwyddo i ddenu’r dorf fwyaf erioed i Maes B ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod. Erbyn yr hydref fe benderfynodd ei fod am gymryd hoe o berfformio er mwyn canolbwyntio ar waith ei label, Recordiau Côsh.  

Maes B enillodd deitl y Digwyddiad Byw Gorau unwaith eto eleni, am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, gyda Clwb Ifor Bach yn derbyn gwobr Hyrwyddwr Annibynnol Gorau mewn blwyddyn a welodd fygythiad mawr i ddyfodol y lleoliad eiconig ar Stryd y Fuwch Goch, Caerdydd.

Roedd yn noson dda i artistiaid newydd hefyd – y grŵp o Fôn a Gwynedd, Gwilym, gipiodd y teitl am y Band neu Artist Newydd Gorau, gydag un arall o’r grwpiau oedd ar restr fer y categori hwnnw, Pasta Hull yn ennill y wobr am y Gwaith Celf Gorau am glawr eu halbwm cyntaf, Achw Met.

Grŵp ifanc a chyffrous arall aeth a’r wobr am y Record Fer Orau, sef Cadno, am eu EP cyntaf sy’n rhannu enw’r grŵp.

Yn y categorïau eraill eleni, cipiodd Osian Williams o Candelas a Siddi y wobr am yr Offerynnwr Gorau am yr ail flwyddyn yn olynol, gan guro ei chwaer Branwen, oedd hefyd ar y rhestr fer, ynghyd ag Ifan Sion Davies.

Mae Osian hefyd yn chwarae ym mand Alys Williams, a hi gipiodd deitl yr Artist Unigol Gorau. Y comedïwr, a chyflwynydd Radio Cymru, Tudur Owen ddaeth i’r brig ym mhleidlais y Cyflwynydd Gorau eleni, er gwaethaf brwydr agos gyda Gareth yr Epa!

Roedd Undeb y Myfyrwyr yn orlawn unwaith eto gyda dros 1000 o bobl o bob cwr yn heidio i Aberystwyth. Un o fandiau mwyaf 2017, Yr Eira, oedd yn cloi y noson, gan ddenu ymateb gwych gan y dorf.

 

Enillwyr llawn Gwobrau’r Selar 2017:

Cân Orau (Noddir gan Ochr 1): Drwy Dy Lygaid Di – Yws Gwynedd

Digwyddiad Byw Gorau (Noddir gan Y Gig Fawr): Maes B

Gwaith Celf Gorau (Noddir gan Y Lolfa): Achw Met – Pasta Hull

Band Neu Artist Newydd Gorau (Noddir gan Brifysgol Aberystwyth): Gwilym

Hyrwyddwr Annibynnol Gorau (Noddir gan Radio Cymru): Clwb Ifor Bach

Record Fer Orau (Noddir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg): Cadno – Cadno

Offerynnwr Gorau (Noddir gan PRS for Music): Osian Williams

Record Hir Orau (Noddir gan Rownd a Rownd): Anrheoli – Yws Gwynedd

Cyflwynydd Gorau (Noddir gan Heno): Tudur Owen

Fideo Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan S4C): Drwy Dy Lygaid Di – Yws Gwynedd

Artist Unigol Gorau (Noddir gan Rondo): Alys Williams

Band Gorau (Noddir gan Gorwelion): Yws Gwynedd

Gwobr Cyfraniad Arbennig (Noddir gan Sain): Heather Jones