Search site


Gŵyl Gwydir yn llwyddiant

14/09/2010 00:00

 

Llongyfarchiadau mawr i drefnwyr Gŵyl Gwydir dros y penwythnos – roedd yr ŵyl yn lwyddiant ysgubol yn ôl y sôn!

Hon yw dim ond ail flwyddyn yr ŵyl sy’n cael ei chynnal yng nghlwb y Legion yn Llanrwst, ac mae’n amlwg ei bod wedi cydio yn nychymyg gig garwyr lleol...a llai lleol.

Yn ôl y trefnwyr, roedd y ddwy noson wedi gwerthu allan yn y Legion, tra bod gardd gwrw y New Inn yn orlawn ar gyfer perfformiadau byw trwy gydol pnawn y dydd Sadwrn!

Er bod yr ŵyl wedi llwyddo i ddenu mwy o bobl leol eleni, mae’n amlwg bod pobl yn teithio o bell i’r digwyddiad hefyd. Roedd aelodau o dîm Y Selar yno dros y penwythnos ac fe gwrddom ni a chriw oedd wedi dod yr holl ffordd o Rydychen i fwynhau’r adloniant! Yn ffans mawr o’r ‘Gorky gwallgof’ daeth y criw i’r ŵyl llynedd yn arbennig i weld perfformiad Euros Childs – fe wnaethon nhw fwynhau cymaint nes iddyn nhw benderfynu dod eleni eto...er nad oedd Euros ar y lineup!

Mae’r ŵyl yn amlwg wedi’i sefydlu ar sail gadarn, ond y cwestiwn yw, beth fydd yn digwydd blwyddyn nesaf? Does dim modd i’r ŵyl dyfu yn ei fformat presennol felly beth fydd penderfyniad y trefnwyr – sticio at fformiwla sy’n gweithio ar lefel fach, neu geisio tyfu’r ŵyl trwy newid y fformat?  Rhywbeth i gnoi cil drosto!