Search site


Dim byd niwlog am ganmoliaeth i'r Niwl

21/01/2011 15:26

 

Efallai y bydd rhai ohonoch chi wedi sylwi ar y clodfori sydd wedi bod ar Y Niwl yn ddiweddar. Mae albwm y band syrff o'r Gogledd wedi derbyn pob math o glod gan sylwebwyr yng Nghymru a'r tu hwn i Glawdd Offa.

Mae'n debyg mai'r anrhydedd mwyaf oedd cael eu dewis yn CD yr wythnos yn y Sunday Times rhyw bythefnos nôl. Ddechrau'r wythnos yma fe wnaethon nhw sesiwn BBC 6 Music efo Marc Riley ac maen nhw wedi cael llu o adolygiadau da ar wefannau cerddoriaeth amrywiol.

Gallwch chi ddarllen mwy am eu llwyddiant fan hyn ar wefan Golwg360.com