Search site


Creision Hud - cwestiynau a lluniau ychwanegol

02/06/2011 10:37

Deunydd ychwanegol o gyfweliad y Creision Hud nath ddim gwneud hi mewn i rifyn mis Mehefin o'r Selar.

Tro dwytha i’r Selar siarad efo chi, roeddych chi’n ystyried newid eich enw. Ydi hynny wedi pasio rwan?

Ifan: Do. Be’ dwi’n meddwl oedd o: Oeddan ni ’di bod yn ddistaw mor hir, oeddan ni’n llythrennol yn teimlo bod ni angan gneud wbath!

Rhydian: Oeddan ni’n meddwl mai dyna be’ oedd yn ein dal ni nôl doeddan.

Sion: O’n i’n convinced (a dw’i dal chydig bach) na’r enw oedd y broblam. Dw’i dal yn gneud jôcs amdano fo heddiw; bob tro dwi’n clywad enw band crap ar y radio dwi’n deud ei fod o bron iawn mor ddrwg â Creision Hud ia! Ond unwaith oeddan ni’n dechra’ sôn am newid, oedd o’n wallgo’ sud wnaeth y newyddion sbredio.

Ifan: Oedd, ond y gwir ydi, dio’m otsh be’ ’di enw dy fand di – y miwsig sy’n cyfri. Yr enghraifft dw’i wastad yn ei defnyddio di’r Artic Monkeys. Mae o wedi dod yn household name ond meddwl amdano fo o ddifri’, ma’n enw terrible! Ond y gwir ydi, pan ti’n gwrando ar y miwsig ’di o ddim yn beth ti’n cymryd llawar o sylw ohono fo.

 

Mae un o’r senglau, ‘She Said’ yn ddwyieithog, ydi hi’n fwriad gennych chi fel band ehangu eich gorwelion?

Sion: ’Da ni’n split ar hyn!

Rhydian: Nath ‘She Said’ ddod yn eitha’ naturiol.

Ifan: Cymraeg ’da ni’n neud o rwan, ond os yda ni’n teimlo ein bod ni’n gneud yn dda yn y dyfodol, a’i fod o’n digwydd yn naturiol, ella... Os fysa Rhydian yn sgwennu geiria’ da Saesneg, fysa neb yn deud “newid nhw, ’di hynna ddim yn iawn”. Os mai dyna ’di’r gân, dyna di’r gân.

Rhydain: Dyna ddigwyddodd efo ‘She Said’, Nath hi jyst dod allan o jamio, ac ma’r un peth yn wir am sengl mis Mai, dyna ddoth allan wrth inni chwara’ ac oedd o’n swnio’n iawn.

Sion: Dyda ni ddim yn feirdd sy’n sgwennu toman o lyrics pryn bynnag, sŵn ’da ni’n mynd amdano fo yn fwy na geiria’.

Ifan: ’Da ni am drio gneud hyn am flwyddyn a Chymraeg fydd hwnna. Flwyddyn nesa’, dwi’m yn gwbod. Yn bersonol, fyswn i’n licio gneud wbath er mwyn gweld os fysa ni’n gallu sbredio allan ’chydig bach. Ond dwi isho aros yn y Sîn Roc Gymraeg hefyd.

Cai: Ma’ bandia’ fel Masters in France a Racehorses yn gallu’i neud o dydi. Gigio yn Llundain un noson ac wedyn yn Nghymru y noson wedyn.

 

Ti’n enwi Masters in France a Racehorses yn fan’na, mae gan ti Y Niwl, Yr Ods a Sibrydion hefyd, i gyd wedi profi ychydig o lwyddiant tu hwnt i Glawdd Offa yn ddiweddar. Ydi hynny’n beth da i’r sîn ta fysa fo’n gallu bod yn beth drwg?

Sion: Ma’r Niwl wedi neud o mewn ffordd clyfar yn y ffaith bod gynno nhw ddim geiria’! Y peth da i rywun fel’na ydi eu bod nhw’n cael eu barnu ar yr un sgêl ag artistiaid o Loegr. Does na’m pobol ignorant o Loegr am ddeud, “Dwi’m yn ddallt y geiriau so dwi’m am wrando.”, felly mae o’n fy synnu i chydig bod na’m mwy o fandiau offerynnol o gwmpas, ac artistiaid dubstep a dawns ac ati.

Ifan: Ma’ angen mwy o sub-genres yn y sîn.

Sion: Oes, ma’ ’na fwy yn dechra’ dod i mewn, Crash.Disco! a Plyci a ballu.

Ifan: Os fysa ’na fwy o fandiau yn dod i mewn mi fysa fo’n digwydd yn naturiol.

Rhydian: Mae ’na newid yn digwydd yn y sîn, Derwyddon ’di mynd – fydd hynna’n od.

 

Wel, mae yna gap yn y farchnad ar gyfer ‘nytars y sîn’ rwan. Fysa gennych chi ddiddordeb yn y math yna o beth?

Rhydian: Ma’ gan Ifs dwi’n meddwl!

 

Ella y gallwch chi brynu holl outfits a phrops y Derwyddon?

Sion: Fyswn i ddim ffansi gwisgo dillad ar ôl y Derwyddon dwi’m yn meddwl!

Ifan: Ond o ddifri’, rwan bod y Derwyddon ddim yna, mae angan i fandiau erill ddod drwadd a deud: “reit, ’da ni’n mynd i roi go ar ein thing ni rwan.” Achos yn yr SRG, os ti’n eitha’ unigryw, os oes gen ti sŵn dy hun, ti fewn!

Rhydian: Ma’ lein-yp Maes B yn dangos bod ’na ddim gymaint â hynny o hedleinars ar gael achos ma’ nhw di cal lot o bobol hŷn yno dydyn. Fydd hi’n neis cal Sibrydion yn ôl ’leni ond ti’n sbio heibio iddyn nhw, dim Racehorses, dim Derwyddon, a ti’n sylwi bod yna’m lot o hedleinars.

Ifan: Dwi’n meddwl ein bod ni mewn transition rwan, yn mynd o un phase i’r llall.

Cai: Hint hint ia!

Ifan: Be’ dwi’n gobeithio ddigwyddith ydi y bydd bandia’ fel ni sydd yn y canol yn dechra’ gneud mwy a mwy. Bandia’ fel ni yn cymryd step i fyny, bandia sy’n dechra allan yn cymryd y step i’r canol a bandia’ sydd heb neud dim o gwbl eto yn cymryd y step gynta yna a dod yn fandia’ newydd y sîn. Fydd hi’n ddiddorol gweld be’ fydd y sŵn newydd ddaw efo’r newid yna.