Search site


Coroni enillwyr Brwydr y Bandiau C2

22/04/2010 21:01

 

Llongyfarchiadau mawr iawn i Yr Angen ar gipio coron Brwydr y Bandiau C2 neithiwr.

Mae’r gystadleuaeth wedi bod yn rhedeg ar C2 ers rhai wythnosau bellach, gyda rowndiau rhanbarthol gyntaf, cyn i rownd derfynol neithiwr.

Tri band oedd yn y ffeinal, sef Yr Angen o Abertawe, The Unknown o Aberystwyth a Cyfoes o ardal Caerfyrddin. Y grŵp o Ysgol Gyfun Gwyr ddaeth i’r brig yn y bleidlais gyhoeddus – llongyfarchiadau mawr i Jac Davies, Jamie Price, David Williams a Gareth Jones. 

Mae’r band yn ennill cyfleodd lu fel rhan o’r wobr, gan gynnwys:

-       recordio Sesiwn i C2, Radio Cymru

-       ymddangos ar raglen deledu Uned 5 ar S4C

-       perfformio yn un o wyliau mawr yr haf

-       perfformio ar lwyfan y Pentre Ieuenctid yn y Sioe Frenhinol

-       chwarae mewn gigs Mentrau Iaith Cymru

-       perfformio ar Daith Ysgolion C2 2010

...heb sôn wrth gwrs am y bri a’r anrhydedd o ddilyn yn ôl traed bandiau cyn enillwyr fel Nevarro a’r Offbeats.

Gallwch weld rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth, yn ogystal a phroffil y bandiau yma ar wefan y BBC.