Search site


Canlyniadau pleidlais gwefan Y Selar

22/04/2010 20:44

Rydach chi, darllenwyr gwefan Y Selar wedi bod yn bwrw eich pleidlais dros fand mwyaf cyffrous Cymru ar hyn o bryd, yma ar y wefan. Cafwyd canlyniadau diddorol iawn hefyd!

Cyfartal oedd y bleidlais, gyda Y Bandana a Crwydro yn cael yr union un faint o bleidleisiau. Cafodd y ddau grŵp ifanc 36% o'r bleidlais yr un, tra fod y band mwy profiadol,Y Niwl wedi hawlio 22% o'r bleidlais yn yr ail safle.