Search site


Brawd a chwaer yn brwydro am wobr Offerynnwr Gorau

04/02/2018 07:53

Mae brawd a chwaer dalentog yn y frwydr am un o gategorïau Gwobrau’r Selar eleni, wrth i ni gyhoeddi’r rhestrau byr diweddaraf ar gyfer eleni.

Cyhoeddwyr y rhestr fer ar gyfer categori’r ‘Offerynnwr Gorau’, ynghyd â’r ‘Record Hir Orau’ ar raglen Lisa Gwilym ar Radio Cymru nos Fercher.

A daeth i’r amlwg ein bod am weld brwydr deuluol yn y categori cyntaf o’r ddau, gydag Osian a Branwen Williams, ynghyd ag Ifan Sion Davies, yn cyrraedd y rhestr fer o dri yn dilyn pleidlais y cyhoedd.

Mae’r brawd a chwarae o Lanuwchllyn ger Y Bala yn cydweithio’r gerddorol ers blynyddoedd – roedd Osian yn ddrymiwr i grŵp ei chwaer, Pala, pan oedd yn ddim o beth ac mae’r ddau wedi cydweithio’n fwy diweddar fel deuawd Siddi.

Mae Osian yn fwyaf adnabyddus ar hyn o bryd fel prif ganwr a gitarydd Candelas, gyda Branwen yn ymuno â’r grŵp ar yr allweddellau’n achlysurol. Mae’r ddau hefyd yn cydweithio fel rhan o fand Alys Williams, a Branwen hefyd yn aelod o Cowbois Rhos Botwnnog.

Ond nid ras dau geffyl ydy’r categori o bell ffordd gydag un o gitaryddion gorau Cymru’n eu herio am y wobr ar ffurf Ifan Sion Davies. Mae Ifan yn ffryntman Sŵnami, a hefyd yn aelod o Yr Eira a band Yws Gwynedd.

Record Hir Orau

Categori y Record Hir Orau, a noddir gan Rownd a Rownd, heb os ydy yn o uchafbwyntiau’r Gwobrau, a dyma’r wobr mae pawb eisiau ychwanegu at eu biograffi.

O’r tri ar y rhestr fer, Yws Gwynedd oedd y cyntaf i daflu ei enw yn yr het eleni gan ryddhau ei ail albwm, Anrheoli, a ryddhawyd gan Recordiau Côsh ym mis Ebrill. Y sengl ‘Sgrin’ ac ‘Anrheoli’ oedd yr hits cynnar, ond bellach mae ‘Disgyn am yn Ôl’ a ‘Drwy dy Lygid Di’ wedi dod yr un mor, ond nad yn mwy poblogaidd.

Y Welsh Whisperer oedd un o artistiaid prysuraf Cymru yn ystod 2017, yn gigio bron a bod pob penwythnos. Dim syndod felly bod ei ail albwm yntau, Dyn y Diesel Coch a ryddhawyd ar label Tarw Du, yn boblogaidd ymysg y pleidleiswyr.

Y drydedd albwm ar y rhestr eleni ydy record hir gyntaf Yr Eira, Toddi, a ryddhawyd gan Recordiau I KA CHING ym mis Gorffennaf. Mae Yr Eira’n gyfarwydd bellach am ysgrifennu caneuon cofiadwy...neu i ddefnyddio’r term technegol ‘tiiiiwns’. Ymysg y ffefrynnau ar yr albwm mae ‘Gadael am yr Haf’, ‘Dros y Bont’, ‘Pan Na Fyddai’n Llon’ a ‘Suddo’.

Cewch wybod pwy sy’n ennill y brwydrau diddorol yma yn noson Wobrau’r Selar yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar 17 Chwefror.

Rhestrau Byr Diweddaraf:

Record Hir Orau

Dyn y Diesel Coch – Welsh Whisperer

Anrheoli – Yws Gwynedd

Toddi – Yr Eira

Offerynnwr Gorau

Ifan Sion Davies

Branwen Williams

Osian Williams