Search site


Adolygiad 'She Said' - Creision Hud

04/03/2011 21:33

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym ni wedi gweld nifer o fandiau'r SRG yn arbrofi gyda chyfansoddi yn y Saesneg, gyda Yr Ods, Race Horses a Masters In France yn enghreifftiau amlwg o hyn. Mae rhai yn gwneud albyms Saesneg, tra bod eraill yn creu caneuon dwyieithog. Mae Creision Hud wedi ymuno yn yr arbrofi gyda'r ail sengl o'u cynllun 'sengl-y-mis', sef 'She Said'.

Fel y disgwylir gan y Creision Hud, mae'r gân yn dal sylw y gwrandwr yn syth, ac yn catchy iawn. Mae eu cerddoriaeth wedi datblygu yn aruthrol dros y misoedd diwethaf, ers i'r band i gyd symud i Gaerdydd, gan greu sŵn llawer mwy aeddfed, sydd yn cyd-fynd â'r genre poblogaidd sydd i'w glywed gan nifer o fandiau mwyaf poblogaidd Prydain erbyn hyn.

Cofwich wylio allan am eu sengl nesaf, 'Bedd', fydd allan ar iTunes ar Fawrth 27.
 

Owain Gruffudd