Search site


 

 
Darllenwch y rhifyn diweddaraf nawr wrth glicio ar y llun uchod - archif ar gael yno hefyd.

Lle mae modd derbyn copi o'r Selar?

Prif gyntedd Prifysgol Bangor, Undeb Coleg y Drindod, Undeb Prifysgol Abertawe, Neuadd Pantycelyn Aberystwyth, Llyfrgell Coleg Meirion Dwyfor (Pwllheli a Dolgellau), Neuadd Fwyd Coleg Menai Bangor, Clwb Ifor Bach, Swyddfeydd Mentrau Iaith Cymru, Siopau Cymraeg ar draws Cymru, Ysgolion Uwchradd ar draws Cymru (6ed dosbarth yn bennaf), Gwersyll yr Urdd Glan Llyn, Gwersyll yr Urdd Llangrannog, Gwersyll yr Urdd Bae Caerdydd a nifer o leoliadau amrywiol eraill ....

Lleoliadau sy'n derbyn copiau o'r Selar.doc (71,5 kB)

 

GWOBRAU'R SELAR

Mae Gwobrau'r Selar - un o ddigwyddiadau byw mwyaf cerddoriaeth gyfoes Cymru - yn cael ei gynnal yn Aberystwyth ar benwythnos 16-17 Chwefror.
 
Bydd prif noson Gwobrau'r Selar yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar nos Sadwrn 17 Chwefror - gweler y lein-yp gwych isod. 
 
Dathlu cyfraniad Heather Jones
 
Yn ogystal â hynny, byddwn yn cynnal Gig Cyfraniad Arbennig gydag enillydd y wobr honno eleni, Heather Jones, yn yr Hen Goleg yn Aberystwyth ar nos Wener 16 Chwefror. Bydd yr anhygoel Alys Williams yn cefnogi Heather ar y noson. 
 
 
 

Os hoffech dderbyn copi uniongyrchol o'r Selar drwy'r post yna cliciwch ar y linc paypal isod - oherwydd cynnydd yn y cost post yn anffodus mae'n rhaid i ni godi ffi am danysgrifiad uniongyrchol am flwyddyn sef £8 :  hysbysebionyselar@gmail.com 

 

 

 

NEWYDDION

Tocynnau Gŵyl y Dyn Gwyrdd ar werth

10/02/2011 14:33
  Mae trefnwyr Gŵyl y Dyn Gwyrdd wedi cyhoeddi bod tocynnau'r ŵyl eleni'n mynd ar werth ddydd Mawrth nesaf, sef 15 Chwefror. Mae'r ŵyl, a sefydlwyd yn 2003, wedi tyfu a thyfu dros y blynyddoedd...

Cyfle olaf i bleidleisio dros Wobrau'r Selar 2010

10/02/2011 14:30
Dim ond oriau sydd i fynd nes bod blwch pleidleisio Gwobrau'r Selar yn cau! Dyma'ch cyfle olaf felly i bleisleisio dros eich hoff artistiaid Cymraeg o 2010 - cliciwch yma i wneud hynny...

Sengl hudol bob mis

05/02/2011 20:56
Hogia gwallgof ydy hogiau Creision Hud! Maen nhw'n honi rŵan eu bod nhw'n bwriadu rhyddhau sengl newydd bob mis yn 2011. Ydyn wir, dyna'r bwriad yn ôl un o'r aelodau, a credwch neu beidio, mae'n...
<< 141 | 142 | 143 | 144 | 145 >>