Search site


Taith fer ac albwm newydd Lleuwen

20/12/2017 16:31

Mae asiantaeth Turnstile wedi cyhoedd  bod Lleuwen yn dychwelyd o Lydaw ar gyfer taith fer yng Nghymru ym mis Mawrth 2018. 

Bydd y gig cyntaf o’r daith yn Galeri Caernarfon ar 1 Mawrth, gyda Gwilym Bowen Rhys yn cefnogi, a bydd y gantores hefyd yn ymweld â Chaerdydd, Llanymddyfri ac Aberystwyth.

Daeth hefyd y newyddion gan Recordiau Sain bod Lleuwen ar fin recordio albwm newydd yn stiwdio Sain, Llandwrog.

Dyma ddyddiadau llawn taith fer Lleuwen:

-          1 Mawrth - Galeri, Caernarfon (gyda Gwilym Bowen Rhys)

-          2 Mawrth - Acapela, Pentyrch, Caerdydd (gyda Blodau Gwylltion)

-          3 Mawrth - Neuadd Pantycelyn, Llanymddyfri (Cyngerdd Dathlu Cân Pantycelyn)

-          4 Mawrth - Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth (gyda Blodau Gwylltion)

Dyma fideo o ddeuawd hyfryd Lleuwen gyda Gwilym Morus ar Bandit rai blynyddoedd nôl: