Search site


Rhestrau Byr Gwobrau'r Selar yn gyflawn

14/02/2018 22:19

Rydym bellach wedi cyhoeddi holl restrau byr Gwobrau'r Selar eleni, wrth i ni baratoi ar gyfer y noson fawr yn Aberystwyth nos Sadwrn yma. 

Y ddwy restr fer olaf i'w cyhoeddi oedd y rhai ar gyfer categoriau 'Artist Unigol Gorau' a 'Band Gorau'. 

Mae'r tri cerddor sydd wedi cyrraedd rhestr fer 'Artist Unigol Gorau' yn wahanol iawn i'w gilydd ac yn adlewyrchu'r ystod eang o gerddoriaeth sydd gennym ar hyn o bryd - y tri ydy Mr Phormula, Alys Williams a'r Welsh Whisperer.

Mae'r categori 'Band Gorau' bob amser yn un o ddiddordeb, a gyda chymaint o grwpiau gwych ar hyn o bryd roedd y bleidlais yn un ddifyr eleni. Y tri sydd wedi codi i'r brig ydy Candelas, Yws Gwynedd a Band Pres Llareggub.  

Bydd enillwyr y categoriau yma, a'r holl gategoriau eraill yn cael eu cyhoeddi yn noson Wobrau'r Selar yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth nos Sadwrn yma, 17 Chwefror. 

Dyma'r rhestrau byr yn llawn eleni:

 

GWOBRAU’R SELAR 2017 – RHESTRAU BYR

 

Cân Orau (Noddir gan Ochr 1)

Dihoeni – Sŵnami

Drwy Dy Lygaid Di – Yws Gwynedd

Aros o Gwmpas – Omaloma

 

Digwyddiad Byw Gorau (Noddir gan Y Gig Fawr)

Maes B

Gig y Pafiliwn

Sesiwn Fawr Dolgellau

 

Gwaith Celf Gorau (Noddir gan Y Lolfa)

Toddi – Yr Eira

Achw Met – Pasta Hull

Anrheoli – Yws Gwynedd

 

Band Neu Artist Newydd Gorau (Noddir gan Brifysgol Aberystwyth)

Pasta Hull

Gwilym

Serol Serol

 

Hyrwyddwr Annibynnol Gorau (Noddir gan Radio Cymru)

Neuadd Ogwen

Clwb Ifor Bach

Recordiau I Ka Ching

 

Record Fer Orau (Noddir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg)

Yr Oria – Yr Oria

Cadno – Cadno

Pyroclastig – Pyroclastig

 

Offerynnwr Gorau

Ifan Sion Davies

Branwen Williams

Osian Williams

 

Record Hir Orau (Noddir gan Rownd a Rownd)

Dyn y Diesel Coch – Welsh Whisperer

Anrheoli – Yws Gwynedd

Toddi – Yr Eira

 

Cyflwynydd Gorau (Noddir gan Heno)

Tudur Owen

Gareth yr Epa

Huw Stephens

 

Fideo Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan S4C)

Bang Bang – Cadno

Drwy Dy Lygaid Di – Yws Gwynedd

‘di Arfar – The Routines

 

Artist Unigol Gorau (Noddir gan Rondo)

Alys Williams

Welsh Whisperer

Mr Phormula

 

Band Gorau (Noddir gan Gorwelion)

Candelas

Yws Gwynedd

Band Pres Llareggub