Search site


Pump i’r penwythnos 8/12/17

08/12/2017 14:59

Gig: Twrw: Parti Nadolig Libertino – ARGRPH, Names, Papur Wal

Llawer o ddigwyddiadau wedi’u trefnu ar gyfer y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig unwaith eto ‘leni, ac mae digon o gigs i ddewis ohonyn nhw penwythnos yma.

Nos Wener 8 Rhagfyr mae Euros Childs ac Adwaith yn chwarae yn Y Parot yng Nghaerfyrddin Caerfyrddin wrth i daith epig Euros (dros 20 o gigs mewn cwta dair wythnos) dynnu i derfyn.

Yng Nghlwb Ifor Bach bydd Twrw: Parti Nadolig Libertino ymlaen, gydag ARGRPH, Names a Papur Wal yn chwarae.

Bydd cyfle i weld Yucatan yn hudo’r gynulleidfa ddwywaith y penwythnos yma - nos Wener yn Neuadd Fawr Caerdydd yn cefnogi The Charlatans, a nos Sadwrn gyda 9Bach a Martin Daws yn Neuadd Ogwen, Bethesda.

Mae Gwilym Bowen Rhys yn chwarae yn y Belle Vue, Bangor nos Wener, ac yn Y Siôr, Carneddi gydag ALAW nos Sadwrn.

Bydd noson wych arall yng Nghlwb Ifor Bach nos Sadwrn, gydag Estrons a Chroma’n chwarae yno.

Can: ‘Sibrydion’ - OSHH

Mae OSHH yn rhyddhau sengl o’i albwm cyntaf a ryddhawyd ar ddechrau’r hydref gan Recordiau Blinc. Daeth y penderfyniad yma’n dilyn llwyddiant ei albwm, ac fe fydd y sengl, ‘Sibrydion’, allan wythnos nesaf  ar 15 Rhagfyr i'w lawr lwytho o wefan Recordiau Blinc

Prosiect Osian Howells o Ynys Môn yw OSHH, wyneb sy’n gyfarwydd iawn i bobl sy’n dilyn y SRG, gan ei fod hefyd fod yn aelod o Yr Ods.

Mae hefyd yn chwarae â band byw sy’n cynnwys Gwion Llewelyn (Villagers, Race Horses, Yr Ods), Griff Lynch (Yr Ods), ei frawd Guto Howells (Yr Eira), ac Ioan Llewelyn. 

Os na allwch aros nes yr wythnos nesaf i’w phrynu – gwrandewch arni isod!

 

Artist: Beth Celyn

Mae hi ‘di bod yn wythnos cyffrous dros ben i Beth Celyn yr wythnos yma. Daw’r artist unigol o Glwyd, ac fe gyhoeddwyd ei bod hi’n un o’r artistiaid/bandiau sydd wedi derbyn grant gan Gorwelion o’r Gronfa Lansio ‘leni.

Fe gyhoeddodd hefyd bod EP yn cael ei ryddhau ganddi wythnos nesaf ar 11 Rhagfyr, sef Troi ar label Sbrigyn Ymborth.

Fe ryddhawyd cân ganddi hefyd yn gynharach yn y flwyddyn, sef ‘Ti’n fy nhroi i mlaen’ sydd i’w chlywed isod.

 

Record: Llareggub - Band Pres Llareggub

Mae campwaith Band Pres Llareggub bellach ar gael i’w brynu’n swyddogol ers 4 Rhagfyr ar eu safle Band Camp.

Er mai dim ond ers dydd Llun y rhyddhawyd yr albwm, bydd llawer yn gyfarwydd â’r caneuon ers wythnosau.

Caneuon sy’n gyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru erbyn hyn yw ‘Cyrn yn yr Awyr’ ganddynt ac Osian Huw Williams, a ‘Cymylau’ ganddynt ar y cyd ag Alys Williams.

Bydd Band Pres Llareggub yn chwarae’n Neuadd Ogwen 27 Rhagfyr gydag Omaloma a Ffracas ddiwedd y mis – chwip o lein-yp!

Ewch i’w phrynu hi’n fan hyn - https://bandpresllareggub.bandcamp.com/

 

Un peth arall..: Lansio Cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2018

Eto eleni, bydd y gystadleuaeth ar gyfer bandiau ac artistiaid newydd yn cael ei chynnal gan Maes B a Radio Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Bydd rownd derfynol Brwydr y Bandiau yn digwydd ar 8 Awst y flwyddyn nesaf.

Mae’n gyfle i fandiau ifanc newydd “gael profiad o berfformio yn y sin, a’r gobaith yw y byddan nhw’n parhau i gigio a chyfansoddi yn y Gymraeg yn y dyfodol” meddai’r Eisteddfod.

Alffa ddaeth i’r brig yn 2017, ac mae’r band wedi aeddfedu a datblygu gan gigio a recordio ers hynny. 

Dyddiad cau y gystadleuaeth yw 16 Chwefror, a bydd cyfres o rowndiau cynderfynol yn cael eu cynnal o amgylch Cymru yn ystod y gwanwyn mewn gigs.

Mae gwobrau anhygoel i’w hennill i’r band buddugol, gan gynnwys slot ym Maes B, sesiwn ar Radio Cymru, ffilmio sesiwn Ochr 1, cael eu cynnwys yng nghylchgrawn Y Selar, a mi fyddant hefyd yn derbyn gwobr ariannol o £1,000. Dim byd i’w golli - llawer i’w ennill.. 

Cofrestrwch drwy wefan Maes B, a cymrwch gip o Alffa, enillwyr Brwydr y Bandiau 2017.