Search site


Pump i’r Penwythnos 15/12/17

15/12/2017 15:45

Gig: Yr Eira, Candelas a Mellt – Neuadd Goffa Aberaeron

Mae llawer iawn o gigs wedi’i trefnu gan bobl dda eto dros gyfnod y Nadolig ‘leni, a’r cyfan yn codi gêr penwythnos yma.

Yng Nghlwb Canol Dre’ heno mae Noson Pedwar a Chwech yn cyflwyno noson Cracyr Dolig, efo Cowbois Rhos Botwnnog yn chwarae, y ddeuawd blŵs Alffa, a gwych gweld y rhen Iwcs a Elis Penri (Iwcs a Doyle gynt) yn dychwelyd ar gyfer y gig.

I chi yng Ngheredigion – mae’r Selar ac Urdd Ceredigion yn trefnu parti ‘Dolig yn Neuadd Goffa Aberaeron heno gyda lein-yp sy’n cynnwys rhai o fandiau gorau Cymru ar hyn o bryd, sef Yr Eira, Candelas a Mellt – drysau’n agor am 20:00.

Mae Menter Iaith Rhondda/Cynon Taf yn cyflwyno parti yng Nghlwb y Bont, Pontypridd heno gyda Hyll yn hed-leinio eu gig cyntaf erioed, a Mabli Tudur a’r Band hefyd yn cefnogi.

Menter arall sy’n cynnal gig penwythnos yma ydy Menter Abertawe, a hynny yn Nhŷ Tawe heno. Cyfle i glywed ’chydig o glasuron Edward H gan Cleif Harpwood, gyda Chroma hefyd yn chwarae.

Os am fynd amdani go iawn efo ysbryd yr Ŵyl, bydd Gwilym Bowen Rhys â’i Gyfeillion yn cynnal noson o Blygain yng Nghlwb Canol Dre, Caernarfon nos Sul 17 Rhagfyr.

Tipyn o amrywiaeth wrth i’r Nadolig nesáu.

Cân: Bang Bang - Cadno

Fe ryddhawyd fideo i’r gân Bang Bang gan Ochr 1 ar HANSH wythnos diwetha’, yn ogystal ag ar sianel YouTube Ochr 1.

Mae’r “fideo ffrwydrol” gan y band o Gaerdydd wedi cael ei gyfarwyddo gan Hanna Jarman o Gaerdydd.

Cafodd Bang Bang ei rhyddhau fel  trac cyntaf ar EP cyntaf y grŵp, sy’n rhannu enw’r band, a ryddhawyd ym mis Mehefin eleni. Bu Band Bang hefyd yn drac yr wythnos ar BBC Radio Cymru fis Gorffennaf.

Cerddoriaeth ardderchog gan fand ifanc addawol dros ben. Cymrwch olwg o’r fideo isod – ond rhybudd i’r gwangalon bod ambell ddiferyn gwaedlyd erbyn y diwedd.

 

Artist: Lleuwen

Llawenhewch! Mae Lleuwen wedi cyhoeddi bod taith fer wedi’i drefnu iddi ar ddechrau mis Mawrth 2018. Mae’r gig agoriadol yn Galeri Caernarfon ar 1 Mawrth, gyda Gwilym Bowen Rhys yn cefnogi. Daeth y newyddion hyfryd hefyd bod Lleuwen ar fin recordio albwm newydd yn stiwdio Sain, Llandwrog.

Roedd y gig y gwnaeth Lleuwen yn Llangywer (ger y Bala) gychwyn y flwyddyn yn siop siarad am wythnosau ar ei ôl – a does dim dwywaith y byddi hi’n hudo pob tref a dinas y byddi hi’n ymweld â nhw fis Mawrth.

Dyma’r dyddiadau y medrwch ei dal hi:

1 Mawrth - Galeri, Caernarfon (gyda Gwilym Bowen Rhys)

2 Mawrth - Acapela, Pentyrch, Caerdydd (gyda Blodau Gwylltion)

3 Mawrth - Neuadd Pantycelyn, Llanymddyfri (Cyngerdd Dathlu Cân Pantycelyn)

4 Mawrth - Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth (Gig ddiwedd prynhawn gyda Blodau Gwylltion)

Bu Lleuwen yn un o’r artistiaid a ymddangosodd ar gyfres poblogaidd ‘Deuawdau Rhys Meirion’ yn ddiweddar, gan berfformiodd y gân yma: 

 

Record: IV - Cowbois Rhos Botwnnog

Mae’n braf cael unrhyw esgus yn y byd i wacio hon allan – a gan eu bod nhw’n chwarae heno yng Nghaernarfon, pam lai ynte.

Rhyddhawyd IV gan y Cowbois nôl yn 2016 ar Label Sbrigyn Ymborth – sef label Aled Hughes, a un o’r tri brawd sy’n aelodau o Gowbois Rhos Botwnnog.

Bu un o’r brodyr eraill, sef Iwan yn gweithio ar ei albwm unigol cyntaf yn ddiweddar, ac rydan ni’n disgwyl gweld hon yn cael ei ryddhau yn ngwanwyn 2018. Mae cân oddi ar yr albwm eisoes ar gael i’w chlywed sef ‘Mis Mêl’.

Os fydd tocynnau ar ôl – ewch am dro i Glwb Canol Dre – gallwn eich sicrhau na chewch chi eich siomi.

Mae’r albwm i’w glywed ar Spotify, a dyma fideo gwych o un o’r traciau, ‘Deud y Byddai’n Disgwyl’ a gyhoeddwyd gan Ochr 1.

 

Un peth arall..: Ffar Out Blog yn uwchlwytho hen fideos ‘Dolig

Os nad ydach chi’n gyfarwydd â Ffar Out erbyn hyn, wel, mae’n bryd i chi stopio be dachi’n gwneud yr eiliad hon a phiciad draw i’w sianel You Tube.

Yn wythnosol, os nad yn ddyddiol maent yn ychwanegu fideos o’r archif ar eu sianel i’r byd eu gweld a’u mwynhau. Does yr un lle arall i wylio llawer o’r fideos sy’n cael eu uwch lwytho, oni bai am y sianel yma.

Wythnos yma maen nhw ‘di ychwanegu ‘chydig o fideos ‘Dolig, rhai sydd efallai’n newydd i lygaid llawer. Gan gynnwys Wyn Bach Iesu Grist gan Steve Eaves, Dolig Del gan Bob Delyn a’r Ebillion, a Nadolig Llawen gan Mike Peters.

Mae oriau ar oriau o fwynhad i’w gael wrth bori trwy rhain: